Ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llanhari, Rhondda Cynon Taf yw Ysgol Llanhari, sydd yn gwasanaethu disgyblion o rhwng 3 ac 18 oed.
Sefydlwyd yr ysgol yn 1974, yn dilyn agoriad Ysgol Gyfun Rhydfelen rhai blynyddoedd ynghynt. Roedd yr ysgol mor boblogaidd yr oedd yn fuan wedi ei gor-tanysgrifo ac felly agorwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd yn 1978 er mwyn cymryd disgyblion o Dde Morgannwg.
Ysgol Llanhari | |
---|---|
Arwyddair | Gorau gwaith gwasanaeth |
Sefydlwyd | 1974 |
Math | y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mrs R Phillips |
Dirprwy Bennaeth | Ms M Thomas |
Cadeirydd | Mrs Pauline Harrison |
Lleoliad | Llanhari, Pontyclun, Rhondda Cynon Taf, Cymru, CF72 9XE |
AALl | Rhondda Cynon Taf |
Disgyblion | 631 |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 3–18 |
Llysoedd | Trisant, Hari ac Aran |
Gwefan | http://www.llanhari.com/ |
Mae gan yr ysgol adrannau cynradd ac uwchradd. Daw'r disgyblion uwchradd o'r adran gynradd ac o ysgolion cynradd Ysgol Gynradd Gymunedol Llantrisant, Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail ac Ysgol Gynradd Dolau ym mlwyddyn 7 y system addysgol.
Mae 3 cae rygbi/pêl-droed, cae hoci, iard pêl-droed/pêl fasged a iard wedi ei tharmacio ar dir yr ysgol. Mae gan yr ysgol un o'r campysau mwyaf yn ne Cymru.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ysgol Llanhari, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.