Cerddoriaeth Cymru

Mae gan gerddoriaeth Cymru hanes hir, ond ychydig iawn o wybodaeth fanwl sydd gennym cyn y 18g pan ddechreuodd hynafiaethwyr ymddiddori yn y pwnc.

Cyfeirir at Gymru'n aml fel "Gwlad y Gân", yn ystrydebol braidd. Erbyn heddiw mae Cymru'n enwog am eu cerddorion cyfoes fel Bryn Terfel ym myd opera a grwpiau fel Manic Street Preachers a Catatonia ym myd roc.

Hanes

Yn yr Oesoedd Canol Diweddar ceir nifer o gyfeiriadau yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr at gerddororion crwydrol yn canu ar y delyn neu'r crwth. Roedd pibau'n offerynnau cyffredin hefyd. Roedd y datgeiniaid a rhai o'r beirdd yn arfer datgan eu cerddi i gyfeiliant y delyn. Etifedd y traddodiad hwnnw yw Cerdd Dant heddiw. Yr Antiffonal Penpont, o'r 14g, yw'r llawysgrif gynharaf o gerddoriaeth o Gymru.

Am ganrifoedd bu canu gwerin yn rhan annatod o fywyd y werin bobl. Erys nifer o geinciau ac alawon a gasglwyd yn y 18g a'r 19eg ar glawr, e.e. 'Dafydd y Garreg Wen'. Ond disodlwyd llawer o'r canu hyn mewn canlyniad i effaith y Diwygiad Methodistaidd. Yn eu lle ceid nifer o emynau gan bobl fel William Williams Pantycelyn a osodwyd ar emyn-donau poblogaidd fel 'Cwm Rhondda'. Dan ddylanwad Ieuan Gwyllt daeth cynnal Cymanfaoedd Canu yn boblogaidd iawn.

Yn ail hanner y 19g daeth corau meibion yn boblogaidd ac roedd y Gymanfa Ganu yn denu miloedd.

Cerddoriaeth glasurol

Ym myd cerddoriaeth glasurol mae traddodiad Cymru yn dechrau gyda'r offerenau crefyddol Lladin a genid yn yr Oesoedd Canol. Mae'r wlad wedi cynhyrchu sawl cyfansoddwr adnabyddus fel Alun Hoddinott, a chantorion byd-enwog fel Bryn Terfel a Katherine Jenkins. Yn ogystal mae gan Gymru ei cherddorfa genedlaethol, Cerddorfa Genedlaethol Cymreig y BBC, a chwmni opera o fri rhyngwladol, sef Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

Cerddoriaeth boblogaidd

Cerddoriaeth Cymru 
Rhywun wedi dwyn fy nhrwyn gan Y Tebot Piws (1971)

Ceir cerddoriaeth boblogaidd o bob math yn y Gymraeg, a ddechreuodd gyda canu gwlad yn y 1960au ond a ymledodd i gynnwys canu roc a phop o ddiwedd y ddegawd honno ymlaen. Mae enwau mawr o'r Oes Aur yn cynnwys Meic Stevens, Geraint Jarman (a'r Cynganeddwyr), Bryn Fôn, Edward H. Dafis, Geraint Lovegreen, Y Tebot Piws a Bob Delyn a'r Ebillion.

Yn Saesneg cafwyd grwpiau fel Amen Corner ac yn fwy diweddar y Manic Street Preachers a'r Super Furry Animals (band sy'n canu yn y Gymraeg yn ogystal).

Mae bodolaeth Radio Cymru wedi bod yn bwysig iawn i alluogi cerddorion Cymraeg i gyrraedd eu cynulleidfa. Yn Saesneg mae Radio Wales wedi bod yn llwyfan bwysig hefyd. Yn ogystal mae S4C yn cynnig lle i gerddoriaeth Gymraeg, er iddo gael ei feirniadu gan rai bobl am fod yn geidwadol a "chanol y ffordd."

Cyfryngau a stiwdios

Erbyn heddiw mae sawl cwmni recordio yng Nghymru. Y pwysicaf yw Cwmni Sain, a sefydlwyd gan Dafydd Iwan, un o gantorion mwyaf poblogaidd y wlad o hyd. Mae cwmnïau eraill yn cynnwys Fflach ac Ankst.

Mae gwyliau cerddorol wedi tyfu yn ddiweddar ac yn rhan annatod o'r diwylliant Cymreig. Maent yn cynnwys Gŵyl y Faenol, a drefnir gan Bryn Terfel ar Stad y Faenol ger Bangor, a Sesiwn Fawr Dolgellau.

Gweler hefyd

Tags:

Cerddoriaeth Cymru HanesCerddoriaeth Cymru Cerddoriaeth glasurolCerddoriaeth Cymru Cerddoriaeth boblogaiddCerddoriaeth Cymru Cyfryngau a stiwdiosCerddoriaeth Cymru Gweler hefydCerddoriaeth Cymru18gBryn TerfelCatatoniaManic Street PreachersOperaRoc

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

CalifforniaSwydd CarlowGlasoedOdlShivaThe TransporterThey Had to See ParisShïaTerra Em TransePriodas gyfunryw yn NorwyKhuda HaafizBara brithDisgyrchiant1693Pleistosen1902TaekwondoTŷ pârHaikuIâr (ddof)MetadataCynnyrch mewnwladol crynswthCalendr GregoriThelma HulbertUndduwiaethLlwyn mwyar yr Arctig1682CREBBPIeithoedd GermanaiddTîm pêl-droed cenedlaethol merched AwstraliaBill BaileyPaentioBootmenTai (iaith)Eva StrautmannCastlejordan, Sir Meath, Gweriniaeth IwerddonAmgueddfa Genedlaethol AwstraliaSwolegSteal69 (safle rhyw)FfilmAfter EarthGareth BaleYour Mommy Kills AnimalsCosmetigauCymryDuwFfilm arswydDriggEnllynLost and DeliriousISO 4217Cerrynt trydanolBukkakeSex TapeY TalibanRoyal Shakespeare CompanyRhyfel Cartref Yemen (2015–presennol)Wiliam Mountbatten-WindsorAnna MarekGwlad PwylYmestyniad y goesHal DavidGroeg (iaith)Todos Somos NecesariosFfilm llawn cyffroParisMAPRE1Oliver CromwellISBN (identifier)Java (iaith rhaglennu)Basbousa🡆 More