System wleidyddol yw totalitariaeth lle nad yw'r wladwriaeth, sydd gan amlaf o dan unben, carfan, neu blaid unigol, yn cydnabod unrhyw gyfyngiadau i'w hawdurdod ac yn ceisio rheoli pob agwedd o fywyd cyhoeddus a phreifat pan fo'n bosib.
Gan amlaf nodweddir totalitariaeth gan gyfuniad o awdurdodaeth ac ideoleg.
Mae llywodraethau totalitaraidd yn aros mewn grym gwleidyddol trwy bropaganda a ledaenir gan gyfryngau torfol a reolir gan y wladwriaeth. Arfau eraill a ddefnyddir gan wladwriaethau totalitaraidd i reoli eu dinasyddion yw: rheolaeth un-blaid (a nodir yn aml gan gwlt personoliaeth carismatig), rheolaeth dros yr economi, rheolaeth dros ryddid mynegiant a chyfyngiant arno, gwyliadwriaeth dorfol a'r defnydd o derfysgaeth wladwriaethol.
Crewyd y cysyniad o dotalitariaeth yn gyntaf yn y 1920au gan Weimar German a datblygwyd hwn gan y Natsi academaidd Carl Schmitt a Ffasgwyr Eidalaidd. Y term a ddefnyddiodd Schmitt oedd Totalstaat (1927), a hynny o fewn ei waith dylanwadol 'Cysyniad y Wleidyddiaeth' ar wladwriaeth eithriadol o gryf ac oblygiadau cyfreithiol i wlad o'r fath. Yn ystod y Rhyfel Oer daeth y gwaith hwn yn hynod boblogaeidd, yn enwedig o fewn propaganda gwrth-gomiwnyddol, er mwyn ceisio dangos y tebygrwydd rhwng yr Almaen Natsiaidd a gwladwriaethau Ffasgiaidd eraill ar y naill law a gwladwriaethau Sofietaidd y Blaid Gomiwnyddol ar y llall.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Totalitariaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.