Syniadaeth sy'n cydnabod bodolaeth amrywiaeth barn mewn gwleidyddiaeth a'r hawl i fynegi hynny ar sawl lefel yw lluosogaeth wleidyddol.
Defnyddir y term lluosogaeth i fynegi'r un syniad gwaelodol mewn meysydd eraill hefyd weithiau, e.e. crefydd. Mewn gwleidyddiaeth, mae lluosogaeth yn cael ei hyrwyddo gan gefnogwyr democratiaeth fodern am ei bod yn cynrychioli buddianau gorau dinesyddion yn gyffredinol ac felly yn un o gonglfeini democratiaeth.
Mewn gwleidyddiaeth ddemocrataidd, mae lluosogaeth yn egwyddor sylfaenol sy'n caniatau fod gwahanol fuddiannau, credoau a ffyrdd o fyw yn medru bodoli yn gytun a heddychlon. Mewn cyferbyniaeth ag ideoleg totalitariaeth, mae lluosogedd yn cydnabod amrywiaeth o bob math mewn cymdeithas a'r angen i gydweithredu er mwyn datrys anghydfod yn hytrach na chael un blaid neu ideoleg yn tra-arglwyddiaethu ar y lleill.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Lluosogaeth wleidyddol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.