Cannu rhefrol yw'r broses o ysgafnhau lliw'r croen o gwmpas yr anws.
Caiff ei wneud at ddibenion cosmetig, i wneud lliw'r anws yn fwy unffurf â'r croen cyfagos.
Mae rhai triniaethau yn cael eu cynnig mewn salon gan dechnegydd cosmetig ac eraill yn cael eu gwerthu fel hufenau gellir eu defnyddio cartref. Ceir tystiolaeth fod cryn beryglon ynghlwm wrth rhai o'r dulliau o gannu (neu wynu).
Actoresau pornograffi a diddanwyr pornograffig eraill oedd y cyntaf i ddefnyddio'r broses o gannu rhefrol, mewn ymdrech i sicrhau bod tôn eu croen yn unffurf dros y cyfan o'u cyrff. Ymledodd yr arfer i sêr ffilm y brif ffrwd yn Hollywood pan ddaeth noethni'n fwy cyffredin mewn ffilmiau mawr.
Bellach mae cannu rhefrol yn broses sydd ar gael i bawb.
Mae yna nifer o ffyrdd o gyflawni'r broses o gannu rhefrol. Y dull mwyaf cyffredin, mwyaf diogel a mwyaf dibynadwy yw trwy ddefnyddio eli yn y cartref er mwyn targedu'r croen dywyll wrth ardal yr organau rhywiol a phylu'r ardal dywyll yn raddol dros gyfnod o amser. Mae'r rhan fwyaf o'r dulliau eraill a ddefnyddir ar gyfer cannu croen, megis triniaethau cryosurgery a channu laser yn annibynadwy ac yn gallu bod yn beryglus.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cannu rhefrol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.