Gorynys yng ngogledd Ewrop yw Jylland (Almaeneg Jütland).
Mae'r rhan ogleddol yn perthyn i Denmarc a'r rhan ddeheuol i'r Almaen, lle mae'n ffurfio rhan o dalaith Schleswig-Holstein. I'r gorllewin o Jylland mae Môr y Gogledd, tra mae'r Skagerrak yn y gogledd a'r Kattegat i'r dwyrain.
Mae rhan fwyaf gogleddol Jylland, Vendsyssel-Thy, yn ynys, a wahenir oddi wrth y gweddill o Jylland gan y Limfjord. Mae Jylland yn ardal o wastadedd gyda rhai bryniau isel, ac arwynebedd o 29,775 km2. Roedd poblogaeth y rhan Ddanaidd yn 2007 yn 2,513,601.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Jylland, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.