Caryl Parry Jones: Actores a chyfansoddwr a aned yn 1958

Cantores, cyfansoddwraig, digrifwr, awdures a darlledwraig o Gymraes yw Caryl Parry Jones (ganwyd 16 Ebrill 1958).

Cychwynodd fel cantores a chyfansoddwr caneuon. Daeth yn adnabyddus yn yr 1980au fel cyflwynydd teledu, digrifwr a dynwaredwr.

Caryl Parry Jones
Caryl Parry Jones: Gyrfa, Disgyddiaeth, Llyfryddiaeth
Ganwyd16 Ebrill 1958 Edit this on Wikidata
Ffynnongroyw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, canwr, bardd, ysgrifennwr, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
TadRhys Jones (cerddor) Edit this on Wikidata
PriodMyfyr Isaac Edit this on Wikidata

Ganed Caryl Parry Jones yn ferch i Rhys Jones, cerddor ac athro, a'i wraig Gwen, fe'i magwyd yn Ffynnongroyw, rhwng Treffynnon a'r Rhyl, lle mynychodd Ysgol Mornant cyn symud ymlaen i Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Astudiodd y Gymraeg a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Mae'n briod â Myfyr Isaac, ac mae ganddynt bump o blant - Miriam, Greta, Elan a Moc. (Gideon yn llys fab iddi)

Gyrfa

Cerddoriaeth

Yn ystod ei hamser yn yr ysgol uwchradd ffurfiodd y grwp Sidan gyda Sioned Mair, gan ryddhau un record hir, Teulu Yncl Sam, ynghyd â dwy record fer.

Ymunodd â'r band Gymraeg, Injaroc, tra yn y brifysgol, ond chwalodd y grŵp wedi naw mis, ar ôl rhyddhau un record hir o'r enw Halen y Ddaear. Un o ganeuon Caryl ar y record hon oedd Calon, cân a recordiwyd yn ddiweddarach gan grwp Diffiniad fel trac disgo yn ystod y 1990au.

Ar ôl gadael y coleg, symudodd i Gaerdydd lle y bu'n cyflwyno'r rhaglen blant Bilidowcar a'r gyfres bop, Sêr 2. Yno, ffurfiodd y grŵp Bando gyda Rhys Ifans, Gareth Thomas, Huw Owen, Martin Sage a Steve Sardar, a hithau yn brif leisydd. Rhyddhawyd sengl 'Space Invaders/ Wstibe' (1980) a dwy record hir, Hwyl ar y Mastiau (1980) a Shampŵ (1982), record sy'n cynnwys un o ganeuon mwyaf adnabyddus Caryl, sef Chwarae'n Troi'n Chwerw. Myfyr Isaac oedd cynhyrchydd y cyfan.

Wedi i Bando chwalu, parhaodd i berfformio gyda Myfyr Isaac o dan yr enw Caryl a'r Band. Ymddangosodd hefyd yn y ffilmiau Gaucho (1983) a The Mimosa Boys (1983). Mae hi hefyd yn chwarae'n fyw gyda'i band newydd, y Millionaires.

Teledu

Cafodd gyfres deledu ei hun, Caryl, ar S4C rhwng 1983 a 1987 a oedd yn gyfuniad o berfformiadau cerddorol a sgetsys comedi. Ymddangosodd yn y gyfres Dawn yn gwneud dynwarediadau ac yn chwarae rhannau gwahanol gymeriadau, yn arbennig Glenys, Lavinia a Delyth. Yn ddiweddarach, seiliwyd dwy ffilm deledu ar y cymeriadau hyn, sef Ibiza, Ibiza! (1986) a Steddfod, Steddfod (1989), gyda Caryl yn ymddangos efo Siw Hughes, Huw Chiswell ac Emyr Wyn. Yn 1985 fe gyd-ysgrifennodd y ffilm gerdd Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig gyda Hywel Gwynfryn. Ar ddechrau y 1990au fe wnaeth hi chwarae rhan y fam yn y gyfres comedi deuluol Hapus Dyrfa.

Ymddangosodd Caryl ar y gyfres Wawffactor, y sioe dalent ar S4C, yn rhoi cyngor a hyfforddiant llais i'r cystadleuwyr.

Fe ddychwelodd i fyd comedi teledu yn 2013 gyda'r rhaglen Caryl ar S4C oedd yn cynnwys cymysgedd o sgetsus a cherddoriaeth, a ddilynwyd gan dau gyfres pellach o dan y teil Caryl a'r Lleill yn 2014 a 2015. Fe aeth un o gymeriadau'r rhaglen gomedi, "Anita" ymlaen i serennu mewn rhaglen ddrama arbennig Anita yn 2015 a fe ddilynwyd hyn gan gyfres o chwe pennod yn Mawrth 2016.

Roedd hefyd yn un o'r Jones's a dorodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.

Radio

Rhwng 2010 a 2014 roedd yn cyflwyno sioe frecwast ar BBC Radio Cymru gyda Dafydd Du. Daeth y ddau nôl gyda'i gilydd i gyflwyno sioe gynnar ar Radio Cymru 2 yn Ionawr 2018.

Yn 2022, cyhoeddwyd byddai Jones yn cyflwyno'r "shifft hwyr" ar BBC Radio Cymru, wrth olynu Geraint Lloyd.

Awdur

Caryl oedd Bardd Plant Cymru 2007–2008, ac mae erbyn hyn wedi ysgrifennu sawl llyfr ar gyfer plant.

Disgyddiaeth

Llyfryddiaeth

  • Barti Smarti a Straeon a Cherddi Eraill, Mai 2008 (Gwasg Gomer)
  • Siocled Poeth a Marshmalos, Hydref 2009 (Gwasg Gomer)
  • Cyfres Dewin: 3. Ffrindiau'r Goedwig, Tachwedd 2011 (Gwasg Gomer)
  • Cyfres Dewin: 4. Ar Lan y Môr, Tachwedd 2011 (Gwasg Gomer)

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Caryl Parry Jones GyrfaCaryl Parry Jones DisgyddiaethCaryl Parry Jones LlyfryddiaethCaryl Parry Jones CyfeiriadauCaryl Parry Jones Dolenni allanolCaryl Parry Jones16 Ebrill19581980au

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Das Leben der AnderenWaxhaw, Gogledd CarolinaThe Dancer of ParisCyfundrefn Al-Qaeda yn y Maghreb IslamaiddDanawayHuw ChiswellMark RobertsBrythoniaidIfan Huw DafyddLlygad-dagell colerwynCyfathrach rywiolSystem resbiraduModur trydanDrigg1666MwynEmojiElisabeth Harnois1 EbrillBusty CopsAmbushGwledydd y bydBitterballenMachludNight RidersAvancRhestr beirdd Cymraeg c.550–1600Gwilym Bowen RhysYr Ymerodraeth RufeinigPedair Cainc y MabinogiCaradogCyfrifiadur personolMikheil SaakashviliGwobrau Dewi SantWicipediaSisters of AnarchyAnkstmusikDinasyddiaeth yr Undeb EwropeaiddY Cefnfor TawelBeti GeorgeYr EidalAwdurCat's EyeHarri I, brenin Lloegr24 (cyfres deledu)Cerddoriaeth dawns electronigElektro MoscowHenry David ThoreauCheyenne AutumnSiccin 2Blue Bloods (cyfres deledu)GwladweinyddBywyd a Marwolaeth TheomemphusRaisa GorbachevaPerinëwmGoogleGwlad yr HafThe Phantom RidersGogledd AmericaAccadde Di NotteLlyfr llafarCastell GwydirGelatinBeijingUndeb credydWiliam I, brenin LloegrCascading Style SheetsManon LescautDestins ViolésRhyw llaw🡆 More