Gwleidydd Americanaidd yw Hillary Diane Rodham Clinton (ganed 26 Hydref 1947), hefyd gwraig Arlywydd Bill Clinton; a bu'n Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau yn ystod arlywyddiaeth ei gŵr (1993 - 2001) Hi oedd 67ain Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau o 2009 hyd 2013 a Seneddwr o Efrog Newydd o 2001 hyd 2009.
Roedd hi'n un o ymgeiswyr arlywyddol y Blaid Ddemocrataidd yn 2008 ond enillodd Barack Obama yr enwebiad. Collodd hefyd yn Etholiad 2016, pan gipiodd Donald Trump yr arlywyddiaeth.
Hillary Clinton | |
| |
Cyfnod yn y swydd 21 Ionawr 2009 – 1 Chwefror 2013 | |
Dirprwy | James Steinberg William Joseph Burns |
---|---|
Arlywydd | Barack Obama |
Rhagflaenydd | Condoleezza Rice |
Olynydd | John Kerry |
Cyfnod yn y swydd 3 Ionawr 2001 – 21 Ionawr 2009 | |
Rhagflaenydd | Daniel Patrick Moynihan |
Olynydd | Kirsten Gillibrand |
Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 1993 – 20 Ionawr 2001 | |
Arlywydd | Bill Clinton |
Rhagflaenydd | Barbara Bush |
Olynydd | Laura Bush |
Geni | 26 Hydref 1947 Chicago, Illinois, UDA |
Plaid wleidyddol | Plaid Ddemocrataidd |
Priod | Bill Clinton |
Plant | Chelsea Clinton |
Llofnod |
Fe'i ganed yn Chicago a'i magu ym mwrdeistref Park Ridge, Illinois, ble astudiodd y gyfraith yng Ngholeg Wellesley, gan raddio yn 1969. Derbyniodd radd arall yn Ysgol y Gyfraith, yng Ngholeg Iâl yn 1973. Bu'n gwnsel am ychydig cyn priodi Bill Clinton yn 1975. Roedd ei thad, Hugh Ellsworth Rodham (1911–1993) o dras Cymreig a Saesnig a weithiai fel rheolwr yn y diwydiant tecstilau, a'i mam Dorothy Howell Rodham (1919–2011), o dras Albanaidd, Cymreig, Seisnig, Canadaidd ac Iseldiraidd.
Yng Ngorffennaf 2016 fe'i henwebwyd gan y Blaid Ddemocrataidd fel eu ymgeisydd ar gyfer yr arlywyddiaeth yn Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2016, y fenyw gyntaf i'w enwebu gan unrhyw brif blaid yn yr U.D.A. Cododd sawl honiad o dwyll a cham-weithredu yn ei herbyn, nid yn unig gan ei gwrthwynebydd Donald Trump yn y ras am yr Arlywyddiaeth, ond ychydig ddyddiau cyn yr etholiad - gan yr FBI. Roedd y prif honiadau'n ymwneud â nifer o ebyst a oedd wedi'u dileu. Trump a orfu, yn groes i'r polau piniwn.
Rhagflaenydd: Barbara Bush | Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau 1993 – 2001 | Olynydd: Laura Bush |
Cyngres yr Unol Daleithiau | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Daniel Patrick Moynihan | Seneddwr dros Efrog Newydd gyda Charles Schumer 2001 – 2009 | Olynydd: Kirsten Gillibrand |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Condoleezza Rice | Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau 2009 – 2013 | Olynydd: John Kerry |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hillary Clinton, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.