Senedd Yr Unol Daleithiau

Uwch-dŷ y ddwy siambr yng Nghyngres yr Unol Daleithiau ydy Senedd yr Unol Daleithiau, a'r is-dŷ yw'r Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau.

Sefydlir cyfansoddiad a phŵerau'r Senedd a'r Tŷ yn Erthygl Un y Cyfansoddiad (sydd ddim yn defnyddio'r termau "uwch" ac "is"). Cynrychiolir pob talaith yr Unol Daleithiau gan ddau seneddwr, waeth beth fo poblogaeth y taleithiau hynny. Sicrha hyn fod gan bob talaith gynrychiolaeth gyfartal yn y Senedd. Mae seneddwyr yn gwasanaethau am dymhorau o chwe mlynedd. Lleolir siambr Senedd yr Unol Daleithiau yn yr adain ogleddol yr adeilad Capitol yn Washington D.C., y prifddinas cenedlaethol. Cyfarfydda'r Tŷ Cynrychiolwyr yn adain ddeheuol yr un adeilad.

Senedd yr Unol Daleithiau
Senedd Yr Unol Daleithiau
Mathsenate, elected legislative house, Awdurdodaeth (cyfraith), legislative branch agency Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1789 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCyngres yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Senedd Yr Unol Daleithiau
Sêl y Senedd

Mae gan y Senedd bŵerau arbennig nas rhoddir i'r Tŷ, gan gynnwys cydsynio i gytundebau fel rhagamod cyn y cânt eu cadarnhau a chydsynio neu gadarnhau apwyntio gweinidogion y Cabinet, barnwyr ffederal, uwch-swyddogion ffederal eraill, swyddogion milwrol a swyddogion unffurf ffederal eraill, yn ogystal ag achosion uchelgyhuddo yn erbyn swyddogion ffederal. Mae'r Senedd yn gorff mwy bwriadol na Thŷ'r Cynrychiolwyr am fod y Senedd yn llai o ran maint a'i haelodau'n gwasanaethu am gyfnod hwy, gan greu awyrgylch llai pleidiol na'r hyn a welir yn y Tŷ lle adlewyrchir agweddau'r cyhoedd yn amlycach. Ystyrir y Senedd yn gorff mwy uchelael na Thŷ'r Cynrychiolwyr am fod y cyfnodau a wasanaethir yno'n hwy, yr aelodaeth yn llai a'r etholaethau'n fwy.

Aelodau Presennol Senedd yr Unol Daleithiau

Alabama: Shelby (G) Tuberville (G)
Alaska: Murkowski (G) Sullivan (G)
Arizona: Sinema (D) Kelly (D)
Arkansas: Boozman (G) Cotton (G)
Califfornia: Feinstein (D) Padilla (D)
Colorado: Bennet (D) Hickenlooper (D)
Connecticut: Blumenthal (D) Murphy (D)
De Carolina: Graham (G) Scott (G)
De Dakota: Thune (G) Rounds (G)
Delaware: Carper (D) Coons (D)
Efrog Newydd: Schumer (D) Gillibrand (D)
Fflorida: Rubio (G) Scott (G)
Georgia: Ossoff (D) Warnock (D)

Gogledd Carolina: Burr (G) Tillis (G)
Gogledd Dakota: Hoeven (G) Cramer (G)
Gorllewin Virginia: Manchin (D) Capito (G)
Hawaii: Schatz (D) Hirono (D)
Idaho: Crapo (G) Risch (G)
Illinois: Durbin (D) Duckworth (D)
Indiana: Young (G) Braun (G)
Iowa:Grassley (G) Ernst (G)
Kansas: Moran (G) Marshall (G)
Kentucky: McConnell (G) Paul (G)
Louisiana: Cassidy (D) Kennedy (G)
Maine: Collins (G) King (A)

Maryland: Cardin (D) Van Hollen (D)
Massachusetts: Warren (D) Markey (D)
Michigan: Peters (D) Stabenow (D)
Minnesota: Klobuchar (D) Smith (D)
Mississippi: Wicker (G) Hyde Smith (G)
Missouri: Blunt (G) Hawley (G)
Montana: Daines (G) Tester (D)
Nebraska: Sasse (G) Fischer (G)
Nevada: Cortes Masto (D) Rosen (D)
New Hampshire: Shaheen (D) Hassan (D)
New Jersey: Menendez (D) Booker (D)
New Mexico: Luján (D) Heinrich (D)

Ohio: S.C. Brown (D) Portman (G)
Oklahoma: Inhofe (G) Lankford (G)
Oregon: Wyden (D) Merkley (D)
Pennsylvania: Casey (D) Toomey (G)
Rhode Island: Reed (D) Whitehouse (D)
Tennessee: Hagerty (G) Blackburn (G)
Texas: Cornyn (G) Cruz (G)
Utah: Romney (G) Lee (G)
Vermont: Leahy (D) Sanders (A)
Virginia: Warner (D) Kaine (D)
Washington: Murray (D) Cantwell (D)
Wisconsin: R. Johnson (G) Baldwin (D)
Wyoming: Lummis (G) Barrasso (G)

     (D) Democrat (48) |      (A) Annibynnwr yn cawcws y Democratiaid (2) |      (G) Gweriniaethwr (50)

Tags:

Cyngres yr Unol DaleithiauTŷ Cynrychiolwyr yr Unol DaleithiauWashington D.C.

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

CyfrifegAnhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwyddProteinGregor MendelYr AlmaenEmyr DanielMarie AntoinetteTamilegFfuglen llawn cyffroSefydliad ConfuciusFfilmAnnibyniaethBitcoinJess DaviesSeliwlosP. D. JamesPeiriant tanio mewnolBugbrookeIntegrated Authority FileKylian MbappéJohn Churchill, Dug 1af MarlboroughMorgan Owen (bardd a llenor)AmgylcheddLleuwen SteffanHarold LloydNepalHen wraigJohnny DeppTrawstrefaLladinSan FranciscoHenoLouvreSex TapeHong CongIncwm sylfaenol cyffredinolChatGPTWassily KandinskyEiry ThomasKazan’202027 TachweddLlwynogSaratovColmán mac LénéniCynnwys rhyddTwristiaeth yng NghymruTrais rhywiolJimmy WalesJohn F. KennedyMulherBlodeuglwmPrwsiaSophie Dee1792Rhisglyn y cyllThe Songs We SangAnne, brenhines Prydain FawrRhif Llyfr Safonol RhyngwladolCilgwriCreampieOriel Gelf GenedlaetholThelemaGary SpeedKahlotus, WashingtonAsiaCaeredinSussexWuthering HeightsTalwrn y BeirddBibliothèque nationale de FranceNaked Souls🡆 More