Mae Nebraska yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd i'r gorllewin o Afon Missouri.
Mae'n cynnwys rhan o'r Iseldiroedd Canolog yn y dwyrain a rhan o'r Gwastadiroedd Mawr yn y gorllewin. Cafodd ei archwylio gan y Ffrancod a'r Sbaenwyr. Roedd yn rhan o Bryniant Louisiana gan yr Unol Daleithiau yn 1803. Daeth yn dalaith yn 1867, a datblygodd yn gyflym fel canolfan ransio. Lincoln yw'r brifddinas.
Arwyddair | Equality before the law |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
Enwyd ar ôl | Afon Platte |
Prifddinas | Lincoln, Nebraska |
Poblogaeth | 1,961,504 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Beautiful Nebraska |
Pennaeth llywodraeth | Jim Pillen |
Cylchfa amser | UTC−07:00, America/Chicago |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 200,520 km² |
Uwch y môr | 790 metr |
Gerllaw | Afon Platte, Afon Niobrara, Afon Republican, Afon Missouri, Lewis and Clark Lake, Llyn McConaughy, Harlan County Reservoir |
Yn ffinio gyda | De Dakota, Missouri, Colorado, Iowa, Kansas, Wyoming |
Cyfesurynnau | 41.5°N 100°W |
US-NE | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Nebraska |
Corff deddfwriaethol | Nebraska Legislature |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Nebraska |
Pennaeth y Llywodraeth | Jim Pillen |
Mae'r hen prairies a'i gyrroedd byffalo a oedd mor annwyl gan y Sioux a Cheyenne brodorol wedi hen ddiflannu. Yn eu lle ceir y caeau mawr agored sydd mor nodweddiadol o'r dalaith heddiw. Diflasodd T. H. Parry-Williams ar undonedd yr ardaloedd gwledig wrth deithio trwy'r dalaith yn y trên yn 1935:
Chwythed y peiriant y mwg o'i gorn
Dros y gwastadeddau indian-corn,
Gan leibio'r dwyrain i'w grombil tân,
A hollti'r pellterau ar wahân,
I mi gael cyrraedd rhyw dir lle mae
Rhywbeth i'w weld heblaw gwlad o gae.
(Synfyfyrion, 1937)
1 | Omaha | 408,958 |
2 | Lincoln | 258,379 |
3 | Bellevue | 50,137 |
4 | Grand Island | 48,520 |
5 | Kearney | 30,787 |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Nebraska, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.