26 Ebrill - Cafwyd tân yn atic estyniad y Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gwacawyd yr holl staff o'r adeilad a bu'r frigad dân wrthi'n ddyfal yn diffodd y tân.
5 Rhagfyr Byddem yn cofio Rhagfyr 2013, am y gwyntoedd mawr a gafodd effaith ar sawl gwlad yng Ngogledd Ewrop, a thrychinebus iawn i sawl teulu.
9 Rhagfyr - Morfil asgellog llwyd ifanc wedi ei olchi i’r traeth ym Mhensarn ger Abergele. Bu'r heddlu a bad achub Llandudno a’r Rhyl yn ceisio ei achub. Erbyn pedwar o’r gloch, ac ar ôl disgwyl am y llanw uchel, bu’r ymdrech yn llwyddiant.
17 Rhagfyr - Tîm criced Lloegr yn colli Cyfres y Lludw yn Awstralia.
Adroddiad misol Les Larsen, Mai 2013: ”Penisarwaun: Wedi eira'r gaeaf a thywydd oer Ebrill yr oedd y mynyddoedd yn frith o esgyrn eira. Yr oeddynt yn amlwg trwy'r mis a hyd yn oed wedi goroesi i Fehefin. Heddiw ar y 7fed o Fehefin gellir gweld lluwch eira'n isel ar Glogwyn Du'r Arddu ac ar y Carneddau gan gynnwys y Ffos Ddofn. Roedd rhai o drigolion yma wedi rhyfeddu gweld lluwch eira ym Mehefin ar y Du'r Arddu.
Mae blodau'r Gwanwyn efo ni o hyd yn harddu ymylon y lonydd, ond mae blodau y ddraenen wên wedi disodli yr un ddu. Yr oeddwn yn falch o weld briwydd bêr/woodruff yn ffynnu ac yn ymestyn. Tyfant mewn 3 lle yma a'r 3 lle yn bell oddiwrth ei gilydd. Tua diwedd Mai fe ddechreuodd yr helygen beraroglaidd /bay willow, ddeilio; hyhi ydy'r helygen sy'n deilio cyn ymddangosiad ei blodau hyfryd. Coeden wyllt yw hon yma yn tyfu'n bell o dai.
D'oedd mis Mai ddim wrth fodd pawb oherwydd y gwynt oer a gafwyd yn aml. Ar y 25ain disgynnodd y tymheredd i lawr i 3.2c. Canlyniad i hyn, gyda noson ddigwmwl a ddiwynt, oedd barrug yn y bore bach. Ar lon wrth Glasgoed Hall ceir llwyn o goed llus yn ymestyn ar hyd y clawdd, arnynt roedd tocyn o flodau bach pinc sy'n addo teisen i rywun lwcus. Do yr oedd nifer wedi clywed a theimlo'r ddaeargryn hefyd. O.N. Mehefin y 9fed eira dal i fod yn y Ffos Ddofn“
Storm fawr Rhagfyr 2013
Go brin y bydd rhai yn anghofio Rhagfyr 2013. Bu’n fis o dristwch i nifer a ddioddefodd oherwydd llifogydd a gwyntoedd cryfion, ar hyd a lled yr ynysoedd yma a gogledd Ewrop. Cofnodwyd hyrddiad gwynt o 109 m.y.a. yn Aberdaron ar yr 26ain, y gwaethaf ers 19 mlynedd yn ôl Gwasanaeth Tywydd S4C, a disgynnodd y pwysau awyr o 936mb yn Stornoway, yr isaf ers can mlynedd. Yn Llanfaglan (data Ifor Williams), syrthiodd pwysau’r awyr dair gwaith o dan 980mb yn ystod 2013, y cwbl ym mis Rhagfyr, sef 18fed, 23ain i’r 25ain ac o’r 26 i’r 27ain. Ar yr 18fed, ‘roedd yn 980mb rhwng 10:30 a 11:30, ac o 11:30 ar y 23ain i 09:00 y 25ain, gyda’r pwynt isaf yn 964.8 am 23:30 ar yr 23ain. Yna ar y 26ain, o 21:00 hyd at 16:30 ar yr 27ain, gyda’r pwynt isaf yn 967 am 06:00. O ganlyniad, cawsom hyrddiadau yn 59mya am 17:30 ar y 18fed o’r de, de-ddwyrain, 70mya am 22:30 ar y 26, eto o’r un cyfeiriad a phan aeth y trydan i ffwrdd yn yr ardal, a 57mya am 04:30 ar yr 27ain y tro yma o’r de ddwyrain. Y diwrnod gwlypaf oedd, yr 18fed 19.8mm, (.78 modfedd) 23ain 28.5mm (1.12modfedd) a’r 29ain 38mm (1.5 modfedd), a’r cyfanswm misol yn 194.1mm, fymryn yn sychach na misoedd Rhagfyr 1994 204.8mm, 2000 258.4mm a 2006 215,4mm.
Ffynnonellau
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article 2013, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses. ®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.