Band roc yw Celt a sefydlwyd yn Rachub, ger Bethesda yn niwedd y 1980au.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|
Daeth criw o gerddorion lleol at ei gilydd, yn rhannol yn dilyn llwyddiant bandiau lleol megis Maffia Mr Huws rai blynyddoedd ynghynt a’r diddordeb mewn canu pop Cymraeg a ddaeth yn sgil sefydlu gŵyl Pesda Roc. Ymhlith yr aelodau gwreiddiol yr oedd Steven Bolton (llais), Barry ‘Archie’ Jones (gitâr a gitâr fas) ac Alwyn Jones (drymiau). Ychydig yn ddiweddarach, fe ymunodd y canwr Martin Beattie (cyn-aelod o’r grŵp lleol, Machlud), ac yn fuan fe ddatblygodd sain nodweddiadol y band – sef caneuon roc syml a baledi canadwy a gyfansoddwyd yn bennaf gan Barry Jones a roddai bwyslais ar asiad lleisiol arbennig Beattie a Bolton. Daeth Siôn Jones (gynt o Maffia Mr Huws) ar y gitâr flaen yn aelod pwysig maes o law, tra bod Huw Smith o’r grŵp Mojo yn cyfeilio ar yr allweddellau o dro i dro.
Rhyddhawyd record gyntaf y band, Da Di’r Hogia, yn 1989, a Cynffon yn 1991, ill dwy ar eu label eu hunain, gan ddod â sylw i’r band gyda chaneuon hwyliog megis ‘Byw yn Braf yn Gibraltar’. Daeth sylw pellach iddynt yn dilyn eu hymddangosiad yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 1993 gyda’r anthemig ‘Dwi’n Amau Dim’. Er na fu’r gân yn fuddugol (cipiwyd y wobr gyntaf gan un o’r Brodyr Gregory), fe’i chwaraewyd yn gyson ar Radio Cymru.
Bu’r band yn perfformio’n gyson ledled Cymru yn ystod y cyfnod, gan fagu dilyniant selog ymysg cynulleidfaoedd, ond bu’n rhaid disgwyl tan 1998 am eu albwm llawn cyntaf. Recordiwyd @.com (Sain, 1998) yn stiwdio Brynderwen ger Bethesda a’i gymysgu gan Les Morrison yn Sain. Bu’r albwm yn llwyddiant, gan werthu rhai miloedd o gopïau. Ar sail caneuon grymus megis ‘Rhwng Bethlehem a’r Groes’, ‘Dros Foroedd Gwyllt’ a’r faled ‘Un Wennol’ daeth Celt yn un o grwpiau mwyaf poblogaidd y 1990au. Dilynwyd @.com gyda EP yn cynnwys y gân ‘Telegysyllta’ (Sain, 2001), ond bu llai o weithgaredd gan y grŵp yn dilyn ymadawiad Martin Beattie. Perfformiodd y band yng Ngŵyl y Faenol, Bangor, yn 2000 ac eto yn 2003. Rhyddhawyd casgliad o’u caneuon gorau, Pwy **** Di Celt?, ar Recordiau Howget yn 2006, ac albwm byw, Cash Is King, ar yr un label yn 2009.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Celt (band), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.