Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mewn partneriaeth â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu addysg uwch ar gyfer myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nod y coleg ffederal hwn yw cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod y gefnogaeth ar gyfer y myfyrwyr hynny, ansawdd yr addysg, a phrofiadau astudio’r myfyrwyr, o’r safon uchaf. Erbyn Tachwedd 2015 roedd y Coleg yn cyflogi 115 o ddarlithwyr. Prif Weithredwr y Coleg yw Dr Ioan Matthews a'i Gofrestrydd yw Dr Dafydd Trystan.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Logo'r Coleg
Sefydlwyd 2011
Math Cyhoeddus
Canghellor Dr Haydn Edwards (Cadeirydd)
Lleoliad Caerfyrddin, Baner Cymru Cymru
Tadogaethau Prifysgol Cymru
Gwefan http://www.colegcymraeg.ac.uk/
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Graff cynnydd myfyrwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg; hyd at 2015.

Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011 i weithio gyda phrifysgolion Cymru, er mwyn datblygu cyrsiau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Nid oes gan y Coleg ei gampws ei hun, ond mae’n gweithio trwy nifer o 'ganghennau' ar draws y prifysgolion yng Nghymru.

Nod y canghennau yw cefnogi gwaith y Coleg a gweithredu fel pwynt cyswllt lleol i fyfyrwyr. Mae’r dewis o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a gynigir wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn mae dros 500 o wahanol raddau ar gael i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, ynghyd â 150 o ysgoloriaethau israddedig a ddyfernir i fyfyrwyr bob blwyddyn. Dyma’r tro cyntaf i unrhyw gorff fynd ati i gynllunio cyrsiau gradd cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol ar gyfer myfyrwyr.

Ceisia'r Coleg roi mwy o gyfleoedd astudio i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, hyfforddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg newydd, datblygu modiwlau ac adnoddau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ac ariannu ysgoloriaethau israddedig ac ôl-raddedigion.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae modiwlau sy'n cael eu cynnig ar yr un pryd mewn mwy nag un brifysgol wedi dod yn fwy amlwg, gyda nifer o enghreifftiau llwyddiannus ym meysydd y Gwyddorau Amgylcheddol, y Diwydiannau Creadigol, y Gyfraith, Cerddoriaeth, Hanes ac Ieithoedd Modern Ewropeaidd.

Y Porth

Mae llwyfan e-ddysgu’r Porth yn galluogi prifysgolion i rannu adnoddau cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru. Felly, mae modd manteisio ar y technolegau e-ddysgu diweddaraf. Mae hefyd yn cynnig adnoddau astudio sy’n ehangach na’r hyn sydd ar gael i fyfyrwyr yn eu prifysgol leol. Mae'r adnoddau'n cynnwys:

  • deunydd cynnwys agored e.e. cyfres o eiriaduron pynciol i fyfyrwyr
  • cyrsiau a modiwlau sy’n berthnasol i gynlluniau gradd penodol o faes Addysg i’r Gwyddorau Biolegol
  • oriel gwe sy’n cynnwys gwefannau perthnasol o ddiddordeb i fyfyrwyr sy’n astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • fideos am feysydd penodol

Datblygwyd yr holl adnoddau a modiwlau ar y Porth gan ddarlithwyr o brifysgolion Cymru trwy nawdd a chydweithrediad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (a'r Ganolfan Addysg Uwch cyn Ebrill 2011). Mae ystod eang o'r meysydd a welir ar y Porth yn adlewyrchiad o'r datblygiadau sylweddol sydd wedi bod yn y sector, ac mae'r Porth bellach yn ganolog i'r holl ddatblygiadau yn y sector Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg.

Ysgoloriaethau Myfyrwyr

Bob blwyddyn mae’r Coleg yn dyfarnu tua 150 o ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig a fydd yn dilyn cyrsiau gradd mewn prifysgolion drwy Cymru benbaladr. Ceir dau fath o ysgoloriaeth – Prif Ysgoloriaethau ac Ysgoloriaethau Cymhelliant. Mae’r Prif Ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio o leiaf ddwy ran o dair o’u cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. O wneud hyn, gellir ymgeisio am un o Brif Ysgoloriaethau’r Coleg, gwerth £3,000 dros dair blynedd (£1,000 y flwyddyn). Mae bron i 300 o wahanol gyrsiau gradd bellach yn cynnwys digon o fodiwlau cyfrwng Cymraeg i fod yn gymwys ar gyfer y Prif Ysgoloriaethau.

Yn wahanol i’r Prif Ysgoloriaethau, mae’r Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gael i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio cyrsiau gradd penodol yn un o’r deg maes academaidd canlynol: Daearyddiaeth, Bioleg a Gwyddorau’r Amgylchedd, Busnes a Rheolaeth, Gwaith Cymdeithasol, Gwyddorau ac Astudiaethau Chwaraeon, Y Gyfraith, Gwyddorau Iechyd, Ieithoedd Modern, Mathemateg a Ffiseg, Seicoleg a Cemeg.

Mae’r Ysgoloriaethau hyn yn cynnig £500 y flwyddyn (neu £1,500 dros dair blynedd) am astudio o leiaf draean o’r cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwerddon

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 
Hafan Gwerddon

Cyfnodolyn academaidd Cymraeg yw Gwerddon, sy'n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd o'r Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau ddwywaith y flwyddyn yn gydnaws â gofynion ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’. Dau brif amcan sydd i Gwerddon, sef symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod mor eang â phosibl o feysydd, a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg. Y ffisegydd Dr Eleri Pryse yw Cadeirydd newydd Bwrdd Golygyddol Gwerddon.

Yn ystod y 2010au gwelwyd cynnydd sylweddol ym maes ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y gymuned academaidd. Fel rhan o'r ymdrech i hyrwyddo statws yr iaith o fewn addysg uwch, ystyriwyd ei bod yn hanfodol i hybu’r defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng ymchwil. I’r perwyl hwnnw, penderfynwyd sefydlu cyfnodolyn academaidd gyda chyfundrefn arfarnu annibynnol a fyddai'n fforwm ar gyfer cyhoeddi gwaith ysgolheigaidd cyfrwng Cymraeg ar draws y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Gwerddon ym mis Ebrill 2007.

Cymrodyr er Anrhydedd

  • Dr Alison Allan
  • Yr Athro Brynley F. Roberts
  • Catrin Stevens
  • Dr Cen Williams
  • Cennard Davies
  • Yr Athro Elan Closs Stephens
  • Geraint Talfan Davies
  • Yr Athro Gwyn Thomas
  • Yr Athro Hazel Walford Davies
  • Heini Gruffudd
  • Yr Athro Ioan Williams: Bu’n weithredol yn genedlaethol mewn fforymau a fu’n ymwneud ag addysg prifysgol drwy’r Gymraeg ac yn lladmerydd dros y Gymraeg o fewn Prifysgol Aberystwyth fel Cyfarwyddwr yr Ysgol Astudiaethau Drwy’r Gymraeg.
  • Dr John Davies: un o brif haneswyr ei genhedlaeth ac awdur Hanes Cymru a llu o gyhoeddiadau eraill.
  • Dr Meredydd Evans: casglwr, golygydd, hanesydd a chanwr gwerin Cymraeg.
  • Yr Athro Merfyn R. Jones
  • Ned Thomas
  • Yr Athro Robin Williams: Pan ymrwymodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2007 i sefydlu Coleg Cymraeg gwahoddwyd yr Athro Robin Williams i gadeirio Bwrdd Cynllunio ar gyfer troi’r cysyniad yn gynllun y gellid ei weithredu. O fewn llai na blwyddyn llwyddodd i sicrhau consensws ymhlith aelodau’r Bwrdd hwnnw o blaid model a ddaeth yn weithredol gyda sefydlu’r Coleg yn 2011.
  • Rhian Huws Williams
  • Dr Siân Wyn Siencyn
  • Yr Athro M. Wynn Thomas

2018

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Y PorthY Coleg Cymraeg Cenedlaethol Ysgoloriaethau MyfyrwyrY Coleg Cymraeg Cenedlaethol GwerddonY Coleg Cymraeg Cenedlaethol Cymrodyr er AnrhydeddY Coleg Cymraeg Cenedlaethol Gweler hefydY Coleg Cymraeg Cenedlaethol CyfeiriadauY Coleg Cymraeg Cenedlaethol Dolenni allanolY Coleg Cymraeg CenedlaetholAddysg uwchCymraegDafydd Trystan DaviesIoan MatthewsPrifysgol Cymru

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Randolph, New JerseyMehandi Ban Gai KhoonSwper OlafFrontier County, NebraskaPen-y-bont ar Ogwr (sir)Saunders County, NebraskaAdams County, OhioDelaware County, OhioZeusCraighead County, ArkansasWarren County, OhioBerliner (fformat)1581Planhigyn blodeuolJohnson County, NebraskaClementina Carneiro de MouraBlack Hawk County, IowaCharmion Von WiegandGoresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022Forbidden SinsJason AlexanderEglwys Santes Marged, WestminsterArolygon barn ar annibyniaeth i GymruMartin LutherYmennyddLos AngelesAfon PripyatNancy Astor1572Oes y DarganfodPrifysgol TartuColeg Prifysgol LlundainJuan Antonio VillacañasAndrew MotionJulian Cayo-EvansBacteriaFfraincMathemategPenfras yr Ynys Las20 GorffennafWcráinChristiane KubrickCeri Rhys MatthewsAnna MarekTotalitariaethIndonesiaSertralinBeyoncé KnowlesYr Ail Ryfel BydFerraraY Rhyfel OerRhyfelWebster County, NebraskaTuscarawas County, OhioSleim AmmarRobert WagnerBrandon, De DakotaJefferson County, ArkansasLudwig van BeethovenPencampwriaeth UEFA EwropVictoria AzarenkaGanglionPentecostiaethWhitewright, TexasCyfieithu o'r Saesneg i'r GymraegIstanbulRuth J. WilliamsLeah OwenMae Nosweithiau Niwlog Rio De Janeiro yn Ddwfn🡆 More