Hanesydd John Davies: Hanesydd Cymreig

Hanesydd Cymreig oedd John Davies (25 Ebrill 1938 – 16 Chwefror 2015), a oedd hefyd yn adnabyddus fel darlledwr.

Ei lyfr enwocaf oedd Hanes Cymru (ail argraffiad 2006), sy'n cael ei ystyried gan lawer o feirniaid fel y gyfrol orau i'w chyhoeddi ar y pwnc.

John Davies
Hanesydd John Davies: Bywgraffiad, Bywyd personol, Cyhoeddiadau
Ganwyd25 Ebrill 1938 Edit this on Wikidata
Treorci Edit this on Wikidata
Bu farw16 Chwefror 2015 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amY Celtiaid, Hanes Cymru Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

Ganed John Davies yn Ysbyty Llwynypia, Rhondda Fawr yn fab i Mary (née Potter) a Daniel Davies o Heol Dumfries, Treorci. Magwyd yn Nhreorci ond symudodd ei deulu i bentref Bwlchllan ger Llanbedr Pont Steffan pan oedd yn saith oed a felly daeth yn adnabyddus i lawer fel John Bwlch-llan neu Bwlchws. Addysgwyd ef yn ysgolion Treorci, Bwlch-llan a Thregaron, yna ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Daeth yn aelod o Adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn Warden Neuadd Pantycelyn yno. Wedi ymddeol, symudodd i fyw i Gaerdydd. John Davies oedd ysgrifennydd cenedlaethol cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Yn 2005 cyflwynwyd Gwobr Glyndŵr iddo yn ystod Gŵyl Machynlleth am ei gyfraniad i'r celfyddydau yng Nghymru. Bu hefyd yn olygydd cyffredinol Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig.

Fe'i ddyfarnwyd yn Gymrodor gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2013 a sefydlwyd Gwobr Goffa Dr John Davies am y traethawd Hanes Cymru orau yn ei enw yn 2015.

Bywyd personol

Priododd ei wraig Janet (nee Mackenzie) yn 1966. Roedd hithau yn hanesydd ac yn frodor o Flaenau Gwent. Cawsant pedwar o blant sef Anna, Beca, Guto and Ianto.

Mewn cyfweliad gyda HTV Cymru yn Nhachwedd 1998, daeth allan fel dyn deurywiol.

Cyhoeddiadau

Cyfeiriadau

Tags:

Hanesydd John Davies BywgraffiadHanesydd John Davies Bywyd personolHanesydd John Davies CyhoeddiadauHanesydd John Davies CyfeiriadauHanesydd John Davies16 Chwefror1938201525 EbrillCymryHanes Cymru (llyfr)Hanesydd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Zoë SaldañaDaearyddiaeth30 Mehefin2021Johann Sebastian BachDuwRoy AcuffThe ChiefRhys MwynVery Bad ThingsPabellFfilm gyffroEgni gwyntKatell KeinegGwasanaeth rhwydweithio cymdeithasolPorth YchainSigarét electronigThe New York TimesSamarcandAderyn ysglyfaethusRhyfel Cartref Yemen (2015–presennol)Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016WoyzeckThe Wicked DarlingY TalibanGallia CisalpinaCyfunrywioldebCaeredinWashington (talaith)OdlLabordyTŷ pârKundunAil Frwydr YpresAlldafliadYr Undeb EwropeaiddTwrciUndeb Rygbi'r AlbanArlene DahlFfwngThe New SeekersPisoSex TapeRhif Llyfr Safonol RhyngwladolMarie AntoinetteFfederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droedThe Witches of BreastwickApat Dapat, Dapat ApatY Deyrnas UnedigFfuglen llawn cyffroReggaeNwy naturiolYour Mommy Kills AnimalsCharles GrodinSweet Sweetback's Baadasssss SongJimmy WalesNegarNeopetsLe Conseguenze Dell'amoreReal Life CamAlexandria RileyGolffUnol Daleithiau AmericaPleistosenSands of Iwo JimaY Cenhedloedd UnedigDisturbiaWy (bwyd)Gwledydd y bydAdolygiad llenyddolOutlaw King🡆 More