Actor o Gymro yw Siôn Daniel Young (sillefir yn aml heb y to bach, Sion Daniel Young) a fagwyd yng Nghaerdydd ac sydd wedi ymddangos mewn sawl cyfres ddrama deledu a theatr yn y Gymraeg a gan fwyaf yn y Saesneg.
Siôn Daniel Young | |
---|---|
Man preswyl | Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor llwyfan |
Magwyd Siôn yng Nghaerdydd.
Mae wedi actio mewn sawl cyfres ddrama. Ymysg y rhai Cymraeg eu hiaith mae'r Gwyll a'r fersiwn Saesneg, "Hinterland", gan Ed Thomas a chyfres ddrama Un Bore Mercher ("Keeping Faith" yn y fersiwn Saesneg) fel 'Gareth' (2020).
Daeth i sylw llawer o'r cyhoedd am ei rhan fel un o brif gymeriadau cyfres ddrama ditectif Deceit (Channel 4, 2021) sy'n seiliedig ar lofruddiaeth Rachel Nickell ar Gomin Wimbledon yn Llundain yn 1992. Chwaraeodd ran Colin Stagg, dyn a amheuwyd o lofruddio'r fam ifanc. Bu iddo dderbyn sylw a chlod am ei bortread o'r cymeriad anghynnes yma. Bu hefyd iddo ymddangos yn Private Peaceful (cymeriad Captain Bovey, (2012), cymeriad Gareth yn Keeping Faith, a chymeriad Gethin yn The Left Behind (2019). Ymhlith eu rannau eraill mae: Doc Martin (TV Series); Paint It Black (2019) George Pendrick; Morgan Hopkins yn Hinterland (2015); Our World War (TV Mini Series).
Enwebwyd ef ar gyfer gwobr Bafta Cymru fel 'Agor Orau' am ei bortread o Gethin yn docu-ddrama y BBC, The Left Behind yn 2020.
Mae wedi ymddangos yn The Radicalisation of Bradley Manning, Mametz, and The Village Social gan National Theatre Wales a On Bear Ridge gan Ed Thomas.
Chwaraeodd rannau blaenallaw yn fersiwn lwyfan o War Horse a The Curious Incident of the Dog in the Night-time (ill dau yn y West End). Bu hefyd yn Nightfall (Bridge Theatre). He will next appear in Jellyfish (National Theatre).
Bu hefyd yn actio ar lwyfan gyda'r National Theatre Live yn fersiwn theatre o War Horse (2014).
Mewn cyfweliad i bapur The Guardian yn Awst 2021, nododd Siôn fod ganddo obeithion uchel ar gyfer byd y ddrama Gymreig a chreu genre Nordic Noir Gymraeg, "Fy mreuddwyd, jyst fel mae Scandi noir wedi gwneud yn iawn i gynulleidfaoedd Prydeinig wylio dramâu wedi eu his-deitl, gall yr un peth ddigwydd fallai i ddramâu Cymraeg." Nododd y cyfwelydd fod rhannau Siôn yn nrama Y Gwyll a leolir yn ardal Aberystwyth ac Un Bore Mercher a leolir yn Sir Gâr yn rhan o'r freuddwyd honno. Esboniodd Siôn bod y dramâu'n cael eu saethu gefn wrth gefn yn y Gymraeg a'r Saesneg, pan ofynnodd yr holwr a oedd yr actor yn cael dwbl y cyflog atebodd Young, “Erm, na. Jyst dwbl y gwaith. Nid 'mod i'n cwyno".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Siôn Daniel Young, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.