Afiechyd heintus ar bobl a phlant yw'r frech goch (Saesneg: measles) sy'n tarddu o feirws paramyxovirus (o'r genws Morbillivirus) ac sy'n ymosod ar y system anadlu.
Enghraifft o'r canlynol | clefyd hysbysadwy, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | Morbillivirus infectious disease, clefyd heintus firol |
Arbenigedd meddygol | Afiechydon heintiol |
Symptomau | Y dwymyn, peswch, runny nose, maculopapular rash, lymphadenopathy, anorecsia, dolur rhydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhestr Afiechydon | ||
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
| ||
Mae'r symptomau'n cynnwys peswch, tishian, llygaid coch, trwyn gwlyb, twymyn a smotiau cochion (neu frech). Mae'r frech goch yn hynod o heintus ac yn ymledu drwy i'r hylif (o'r trwyn neu'r geg) gyffwrdd person arall, naill ai drwy gyffyrddiad neu drwy'r aer. Ar gyfartaledd mae 90% o bobl sydd yn byw yn yr un tŷ yn ei ddal, oni bai fod ganddyn nhw imiwnedd i'r haint. Gall y cyfnod heintio fod rhwng 6–19 diwrnod.
Mae'r brechlyn trifflyg MMR yn cael ei roi i fabanod er mwyn atal yr haint hwn.
Cafwyd cynnydd yn y nifer o achosion o'r frech goch yn Abertawe yn Ebrill 2013, gyda thros 620 achos (hyd at 16 Ebrill).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brech goch, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.