Mae Thrace (Groeg: Θράκη, Thráki; Groeg Attig: Θρᾴκη Thrāíkē neu Θρῄκη Thrēíkē; Lladin: Thracia) yn ardal yn ne-ddwyrain Ewrop.
Heddiw defnyddir Thrace am diriogaeth sy'n ymestyn dros dde-ddwyrain Bwlgaria (Gogledd Thrace), gogledd-ddwyrain Gwlad Groeg (Gorllewin Thrace), a rhan Ewropeaidd Twrci (Dwyrain Thrace). Gelwir y rhan yn Nhwrci hefyd yn "Rumeli". Roedd yr hen Thrace (y tiriogaethau lle roedd y Thraciaid yn byw) hefyd yn cynnwys rhan o ddwyrain Serbia a dwyrain Gweriniaeth Macedonia.
Math | ardal hanesyddol, hen wareiddiad, cenedl |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Balcanau, Mediterranean Basin |
Gwlad | Bwlgaria, Gwlad Groeg, Twrci |
Yn ffinio gyda | Groeg yr Henfyd |
Cyfesurynnau | 42°N 26°E |
Roedd y Thraciaid wedi ei rhannu yn nifer o lwythau, heb fod wedi uno yn un wladwriaeth. Ymsefydlodd rhai Groegiaid yno o'r 6g CC. ymlaen, a chafodd diwylliant Groeg gryn ddylanwad yn yr ardal. Ymddangosodd rhai Thraciaid, megis Orpheus, ym mytholeg Roeg. Daeth yr ardal yn rhan o Ymerodraeth Persia wedi iddi gael ei choncro gan Darius Fawr yn 513 cC - 512 CC. Wedi i'r Persiaid encilio, rhannwyd Thrace yn dair rhan. Yn y 4g CC. concrwyd Thrace gan Philip II, brenin Macedon a bu dan reolaeth y Macedoniaid hyd nes i'r Rhufeiniaid eu gorchfygu ym Mrwydr Pydna yn 168 CC. a chymeryd meddiant o Thrace. Yn 279 CC, symudodd Celtiaid o Gâl i Thrace ac ymsefydlu yno hyd ddiwedd y ganrif.
Am gyfnod, roedd Thrace yn nifer o deyrnasoedd hanner-annibynnol dan reolaeth Rhufain, ond wedi cyfnod o derfysg daeth yn dalaith Rufeinig Thracia yn 46. Roedd y llengoedd yn Moesia yn gyfrifol am ddiogelwch y dalaith. Yn ddiweddarach bu ymladd am Thrace rhwng yr Ymerodraeth Fysantaidd a Bwlgaria, nes i'r Ymerodraeth Otomanaidd gymeryd meddiant o'r ardal yn y 14g a dal gafael arni am bum canrif.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Thrace, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.