Roedd Macedon (a adnabyddir hefyd fel Macedonia) (Groeg: Μακεδονία Makedonía) yn deyrnas hynafol â'i chanolfan yn rhanbarth bresennol Macedonia yng ngogledd Gwlad Groeg, cartref y Macedoniaid hynafol; ar adegau o'i hanes roedd y deyrnas yn cynnwys rhannau o wledydd presennol Gwlad Groeg, Gweriniaeth Macedonia, Albania, Bwlgaria a Thrace.
Daeth i ddominyddu'r Roeg hynafol yn y 4 CC, pan lwyddodd Philip II i orfodi'r dinas-wladwriaethau Groeg, fel Athen a Thebes, i ffurfio Cynghrair Corinth. Aeth mab Philip, Alecsander Fawr, ymlaen i oresgyn Ymerodraeth Persia. Er i deyrnas Macedon golli reolaeth ar daleithiau Ymerodraeth Persia, parhaodd i ddominyddu Gwlad Groeg ei hun nes iddi gael ei gwncweru gan Weriniaeth Rhufain yn Rhyfeloedd Macedonia (215 - 148 CC) a dod yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig ar ôl hynny.
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ancient Macedonians |
Prifddinas | Vergina, Pella |
Sefydlwyd |
|
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ancient Macedonian, Hen Roeg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Macedon |
Yn ffinio gyda | Thrace, Illyria |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Synedrion |
Crefydd/Enwad | crefydd Groeg yr Henfyd |
Arian | tetradrachm |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Macedon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.