Dinas sy'n wladwriaeth annibynnol yw dinas-wladwriaeth.
Gall fod yn wladwriaeth ddemocrataidd neu'n frenhiniaeth. Roedd dinas-wladwriaethau yn nodweddiadol o fywyd gwleidyddol Groeg yr Henfyd, yng Ngwlad Groeg ei hun (na fu'n wladwriaeth gyfunol tan iddi ennill annibyniaeth) ac yn ei threfedigaethau allanol yn Asia Leiaf, Sisili, de'r Eidal a mannau eraill ar arfordir y Môr Canoldir a'r Môr Du. Ceir enghreifftiau eraill o ddinas-wladwriaethau yn yr Henfyd yn ogystal, er enghraifft yn India. Gellid cyfrif sawl gwlad fechan yn y byd heddiw yn ddinas-wladwriaeth o ryw fath, er enghraifft Singapôr, San Marino a Dinas Fatican.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dinas-wladwriaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.