Mytholeg Roeg yw chwedloniaeth Gwlad Groeg a'r byd Hen Roeg ei iaith yn yr Henfyd a chynt.
Mae'n ymwneud â duwiau ac arwyr y Groegiaid gynt, natur y byd, a dechreuadau a phwysigrwydd eu harferion a'u defodau eu hunain. Roeddent yn rhan o grefydd yng Ngroeg yr Henfyd. Mae ysgolheigion cyfoes yn cyfeirio at y chwedlau ac yn eu hastudio gyda'r bwriad o hybu gwell dealltwriaeth o sefydliadau crefyddol a gwleidyddol byd Groeg, eu gwareiddiad, ac i feithrin eu dealltwriaeth o'r arfer o greu chwedlau ei hunan. Mae rhai diwynyddwyr wedi awgrymu fod y Groegiaid cynnar wedi creu chwedlau er mwyn medru esbonio popeth ac i sicrhau fod rhesymeg tu ôl i bopeth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mytholeg Roeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.