Prifysgol gyhoeddus a leolir ym mwrdeistref Mitte ym mhrifddinas yr Almaen, Berlin, yw Prifysgol Humboldt Berlin (Almaeneg: Humboldt-Universität zu Berlin).
Sefydlwyd Prifysgol Berlin (Universität zu Berlin) yn 1809 gan Ffredrig Wiliam III, brenin Prwsia, ar gais Wilhelm von Humboldt, ac agorodd yn 1809. Hon yw'r hynaf o'r pedair prifysgol sydd ym Merlin. O 1828 hyd ei gau ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1945, ei enw oedd Prifysgol Friedrich Wilhelm (Friedrich-Wilhelms-Universität). Fe'i hail-agorwyd yn 1949 dan yr awdurdodau Sofietaidd yn Nwyrain Berlin gyda'r enw newydd Prifysgol Humboldt Berlin.
Arwyddair | Universitas litterarum |
---|---|
Math | comprehensive university, prifysgol ymchwil gyhoeddus, cyhoeddwr mynediad agored, University of Excellence |
Enwyd ar ôl | Wilhelm von Humboldt, Alexander von Humboldt |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | list of universities, colleges, and research institutions in Berlin, list of universities in Germany |
Lleoliad | Dorotheenstadt, Berlin, Prince Henry Palace |
Sir | Berlin |
Gwlad | Yr Almaen |
Uwch y môr | 40 metr |
Cyfesurynnau | 52.5181°N 13.3933°E |
Cod post | 10117 |
Sefydlwydwyd gan | Wilhelm von Humboldt |
Rhennir y brifysgol yn naw cyfadran, gan gynnwys yr ysgol feddygol sy'n gysylltiedig hefyd â Phrifysgol Rydd Berlin. Mae ganddi 32,000 o fyfyrwyr sydd yn astudio cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig mewn rhyw 189 o ddisgyblaethau. Lleolir y prif gampws ar rodfa'r Unter den Linden yng nghanol Berlin. Cydnabyddir y brifysgol am arloesi model Humboldt yn addysg uwchradd, sydd wedi dylanwadu'n gryf ar brifysgolion eraill yn Ewrop a'r Gorllewin. Gelwir Humboldt felly yn "fam y brifysgol fodern".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Prifysgol Humboldt Berlin, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.