Cwrs Prifysgol

System o addysgu ar gyfer myfyrwyr prifysgol israddedig ac weithiau uwchraddedig yw cwrs prifysgol.

Mae'n debyg i gwricwlwm ysgol ond gan ei fod yn rhaglen addysg uwch disgwylir i fyfyrwyr bod yn llawer mwy annibynnol yn eu hastudiaethau.

Mae'r adran prifysgol yn llunio fframwaith o arweiniad pedagogaidd i'r pwnc gan athrawon, darlithwyr, neu diwtoriaid, sydd yn cynnwys dulliau addysgu megis darlithoedd, seminarau, a thiwtorialau, ac adnoddau dysgu megis rhestrau darllen. Disgwylir gwaith astudio annibynnol gan fyfyrwyr, gan amlaf darllen, ymchwil, gwneud nodiadau, ac adolygu. Gall myfyrwyr hefyd gweithio gyda'i gilydd mewn gwaith grŵp. Asesir myfyrwyr trwy arholiadau a gwaith cwrs, megis traethodau, gwaith seminar, traethawd hir, neu dasgau eraill, ac mae rhywfaint o farciau'r asesiadau hyn yn cyfrannu at radd derfynol eu gradd academaidd.

Yn aml fe rennir cyrsiau prifysgol yn fodiwlau, sydd yn canolbwyntio ar agweddau ac is-bynciau penodol o bwnc y cwrs. Er enghraifft, gall fodiwlau cwrs y gyfraith gynnwys athroniaeth gyfreithiol, cyfraith droseddol, cyfraith contract, cyfraith camwedd, a chyfraith deuluol.

Mae'n bosib i fyfyrwyr astudio mwy nag un pwnc trwy radd Anrhydedd Cyfun mewn rhai gwledydd. Mewn nifer o wledydd gall fyfyrwyr astudio dau wahanol bwnc, ond gyda mwy o ganolbwynt ar un na'r llall, trwy raglen prif bwnc/is-bwnc. Mae hyn yn boblogaidd iawn yn yr Unol Daleithiau, ond nid cymaint yn y Deyrnas Unedig, lle mae'r mwyafrif o fyfyrwyr yn astudio un pwnc ar gyfer gradd yn unig.

Yn aml mae astudiaethau myfyrwyr uwchraddedig yn llwyr annibynnol, ond mae'n bosib i radd meistr gynnwys cwrs arweiniol yn rhannol neu yn llwyr.

Tags:

AddysgAddysg uwchCwricwlwmIsraddedigMyfyrwyrPrifysgolUwchraddedigYsgol (addysg)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

DaearyddiaethFfawt San AndreasJonathan Edwards (gwleidydd)Rhyw tra'n sefyllGoodreadsDadansoddiad rhifiadolLakehurst, New JerseyCwpan y Byd Pêl-droed 2018Yr Eglwys Gatholig RufeinigMancheY WladfaJess Davies723BrexitStromnessPengwin AdéliePARNJuan Antonio VillacañasZagrebOCLCBukkakeWiciadurPensaerniaeth data1576Titw tomos lasFort Lee, New JerseyPisoSwmerPen-y-bont ar OgwrHaikuAmerican WomanHoratio NelsonRobin Williams (actor)1695Friedrich KonciliaRihannaTocharegThe InvisibleProblemosSiot dwad1573Iddewon AshcenasiAbertaweImperialaeth NewyddTeithio i'r gofodRhaeVictoriaYr ArianninAbaty Dinas Basing30 St Mary AxeY Rhyfel Byd CyntafGertrude AthertonAsia17011855Tarzan and The Valley of GoldEnterprise, AlabamaDeslanosidKatowiceTîm rygbi'r undeb cenedlaethol FfraincSefydliad di-elwDylan EbenezerVin DieselMorden705Iaith arwyddionLlyffantSex and The Single Girl🡆 More