Am ddefnydd arall o'r gair ysgol, gweler Ysgol (gwahaniaethu)
Lle a ddynodir ar gyfer addysgu yw ysgol. Fel arfer y mae'n sefydliad (ac yn adeilad) lle mae disgyblion neu fyfyrwyr, sydd fel arfer yn blant neu yn bobl ifainc, yn dysgu drwy law athrawon. Lle canolog y dysgu fel arfer yw'r ystafell ddosbarth, ond dim o angenrheidrwydd bob amser. Gall y dysgu fod mewn labordy er enghraifft, neu hyd yn oed yn yr awyr agored.
Mae'r math o sefydliad a ddisgrifir fel ysgol yn amrywio o wlad i wlad.
Gelwir yr hyn sy'n cael ei addysgu yn yr ysgol yn gwricwlwm a cheir Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n nodi'n statudol yr hyn sy'n ofynnol i ddisgybl ei ddysgu.
Yng Nghymru ceir addysg mewn ysgolion cynradd i blant unarddeg oed ac iau ac ysgolion uwchradd o unarddeg tan ddeunaw oed os oes chweched dosbarth, ac o unarddeg tan 16 oed os nad oes gandddynt chweched dosbarth. Lle nad oes chweched dosbarth bydd y plant sydd am ddilyn addysg uwch yn mynychu Coleg Trydyddol.
Gelwir ysgolion cynradd sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgolion Cymraeg a'r ysglion uwchradd sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn neu Ysgol ddwyieithog neu'n Ysgol Naturiol Gymraeg fel a geir yng Ngwynedd.
Cafwyd cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru ym Medi 2008, wedi'i osod gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r cwricwlwm hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ysgol (addysg), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.