Mae Gelsenkirchen (IPA:ɡɛlzn̩ˈkɪɐ̯çn̩) yn ddinas yn nhalaith Nordrhein-Westfalen yng ngorllewin Yr Almaen.
Ei phoblogaeth yn 2016 oedd 262,528 a hi yw 25ain ddinas fwaf y wlad. Lleolir hi ar lan Afon Emscher, sy'n gangen o Afon Rhein. Mae'r ddinas yn gorwedd ynghannol dyffryn y Ruhr, sef ardal ddiwydiannol ac ardal drefol a mwyaf poblog yr Almaen lle mae'r dinasoedd yn rhedeg fewn i'w gilydd yn debyg i bentrefi Cymoedd de Cymru. Gelsenkirschen yw'r bumed ddinas fwyaf yn y Ruhr ar ôl Dortmund, Essen, Duisburg a Bochum. Mae Rhanbarth Rhein-Ruhr yn un o ranbarthau metropolitan fwyaf Ewrop. Gelsenkirchen yw un o ddinasoedd mwyaf deheuol tafodiaith Platt Deutsch - continiwm o dafodieithoedd sy'n ymestyn ar draws gogledd yr Almaen ac sydd agosaf at yr iaith Iseldireg yn hanesyddol. Mae'r ddinas yn gartref i glwb pêl-droed FC Schalke 04, sy'n chware yn y Veltins-Arena yn Gelsenkirchen-Erle.
Math | dinas fawr, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of North Rhine-Westphalia |
---|---|
Poblogaeth | 263,000 |
Pennaeth llywodraeth | Frank Baranowski |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Regionalverband Ruhr |
Sir | Ardal Llywodraethol Münster |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 104.94 km² |
Uwch y môr | 48 metr |
Yn ffinio gyda | Recklinghausen, Herne, Bochum, Essen, Dorsten |
Cyfesurynnau | 51.52°N 7.1°E |
Cod post | 45801–45899 |
Pennaeth y Llywodraeth | Frank Baranowski |
Mae hanes Gelsenkirschen wedi cael ei nodweddu gan ddiwydiant trwm megis glo a dur ac adnabwyd hi unwaith fel y "dinas y mil o danau".
Dogfennwyd Gelsenkirchen gyntaf yn 1150, ond bu'n bentref bach hyd at y 19g, pan arweiniodd y Chwyldro Diwydiannol at dwf yr ardal gyfan. Yn 1840, pan ddechreuwyd gloddio glo, roedd 6,000 o drigolion yn byw yn Gelsenkirchen; yn 1900, roedd y boblogaeth wedi cynyddu i 138,000. Yn gynnar yn yr 20g, Gelsenkirchen oedd y dref lofaol bwysicaf Ewrop. Ym 1928, cyfunodd Gelsenkirchen â dinasoedd cyfagos Buer a Horst. Yn ystod y Rhyfel Mawr, roedd yna wersyll carcharorion rhyfel yn Gelsenkirchen. Parhaodd y ddinas yn ganolfan cynhyrchu glo a mireinio olew, a chafodd ei bomio yng nghyrchoedd awyr y Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwyd hynny. Dinistrwyd tri chwarter o Gelsenkirchen yn ystod y Rhyfel gan y cyrchoedd awyr a'r ymladd.
Sefydlwyd gwersyll Gelsenberg ('Gelsenberg Lager') sef, is-wersyll i wersyll crynhoi/hil-ladd 'KZ Buchenwald' yn 1944 er mwyn dal gweithlu caeth o oddeutu 2,000 o fenywod a merched Hwngareg ar gyfer ffatri Gelsenberg-Benzin-AG. Bu farw 150 ohonynt mewn cyrch bomio ym mis Medi 1944 (gwaharddwyd hwy rhag defnyddio llochesi bomio neu ffosydd amddiffyn).
Mae hi'n adnabyddus am ei chlwb pêl-droed, FC Schalke 04, sy'n cymryd ei enw o un o ardaloedd y ddinas. Yn 2006, cynhaliodd stadiwm newydd Veltins-Arena gemau Cwpan y Byd. Effeithiwyd y ddinas yn fawr gan ddiweithdra uchel iawn (26% o'r boblogaeth weithgar yn 2006). Mae'r ddinas yn cynnig atyniad sŵn ZOOM Erlebniswelt. Sefydlwyd hi yn 1949 fel "Ruhr-Zoo" ond gweinyddir hi bellach gan y ddinas. Ceir hefyd trac rasio ceffylau 'trotian' enwog, GelsenTrabPark.
Mae Gelsenkirchen yn cyflwyno ei hun fel canolfan technoleg solar. Mae Shell Solar Deutschland GmbH yn cynhyrchu celloedd solad yn Rotthausen. Ceir hefyd Scheuten Solar Technology sy'n cynhyrchu paneli solar. Ceir busnesau mawrion eraill yn y ddinas: THS Wohnen, Gelsenwasser, e.on, BP Gelsenkirchen GmbH, Shell Solar Deutschland GmbH a Pilkington.
Mae'r ffaith i'r dref fod yn ganolfan ddiwydiannol ers degawdau olygu fod ganddi boblogaeth amlethnig iawn.
Ranc | Cenedligrwydd | Poblogaeth (31.12.2018) |
---|---|---|
1 | Twrci | 17,172 |
2 | Syria | 6,672 |
3 | Rwmania | 4,989 |
4 | Gwlad Pwyl | 4,482 |
5 | Bwlgaria | 2,760 |
6 | Serbia | 2,427 |
7 | Yr Eidal | 1,812 |
8 | Croatia | 1,278 |
9 | Cosofo | 1,245 |
10 | Irac | 1,173 |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gelsenkirchen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.