Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Nordrhein-Westfalen (yn llythrennol 'Gogledd Rhein a Westfalen').
Fe'i lleolir yng ngorllewin canolbarth y wlad, ar y ffin â'r Iseldiroedd a Gwlad Belg. Mae'n cynnwys nifer o ddinasoedd mawr, gan gynnwys Düsseldorf, prifddinas y dalaith, Cwlen, ei dinas fwyaf, Aachen, Bielefeld, Bonn, Bochum, Essen, Dortmund, Duisburg, Gelsenkirchen, Münster, Oberhausen, Paderborn a Wuppertal.
Arwyddair | Germany at its best |
---|---|
Math | taleithiau ffederal yr Almaen |
Enwyd ar ôl | North Rhine, Province of Westphalia |
Prifddinas | Düsseldorf |
Poblogaeth | 17,932,651 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Hendrik Wüst |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 34,112.52 km² |
Uwch y môr | 45 metr |
Yn ffinio gyda | Niedersachsen, Hessen, Rheinland-Pfalz, Walonia, Limburg, Gelderland, Overijssel, Liège |
Cyfesurynnau | 51.47°N 7.55°E |
DE-NW | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Landtag of North Rhine-Westphalia |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Gweinidog-Lywydd Gogledd Rhine-Westphalia |
Pennaeth y Llywodraeth | Hendrik Wüst |
Mae Nordrhein-Westfalen yn cynnwys rhan ogleddol y Rheinland (Nordrhein) ac ardal Westfalen. Mae Afon Rhein ei hun yn rhannu'r ddwy ardal oddi wrth ei gilydd, Nordrhein yn y gorllewin, a Westfalen yn y dwyrain. Canol y dalaith yw ardal ddiwydiannol y Ruhr.
Crëwyd y dalaith gan y weinyddiaeth filwrol Brydeinig ym 1946 allan o rhan ogleddol yr hen Rheinprovinz (Talaith y Rhein) a thalaith Westfalen. Daeth y dalaith newydd â holl ardaloedd y Ruhr at ei gilydd. Gan fod y dalaith newydd o fewn parth meddiannol Prydain, roedd hyn yn sicrhau rheolaeth Prydain dros ardal ddiwydiannol fwya'r Almaen. Ychwanegwyd hen dalaith Lippe ati ym 1947. Mae'r ffiniau wedi aros yr un ers hynny.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Nordrhein-Westfalen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.