Mae FC Schalke 04, neu'r enw llawn, Fußball-Club Gelsenkirchen-Schalke 04 yn glwb pêl-droed o ardal Schalke yn ninas Gelsenkirchen, Talaith Nordrhein-Westfalen yn yr Almaen.
Talfyrir enw'r tîm yn aml i 'S04' - a ynghennir fel "Es nwl ffier" yn Gymraeg ("S Dim Pedwar").
Enw llawn | Fußballclub Gelsenkirchen-Schalke 04 e.V. | |||
---|---|---|---|---|
Llysenwau | Die Königsblauen (Y Glas Brenhinol) Die Knappen (Y Glowyr) | |||
Enw byr | S04 | |||
Sefydlwyd | 4 Mai 1904 | |||
Maes | Veltins-Arena, Gelsenkirchen (sy'n dal: 62,271) | |||
President | Clemens Tönnies | |||
Gwefan | Hafan y clwb | |||
| ||||
Tymor cyfredol |
Sefydlwyd y clwb ar 4 Mai 1904 o dan yr enw Westfalia Schalke. Ym 1912 ymunodd â chlwb gymnasteg, Schalk Turnverein 1877, cyn ymwahanu yn 1915 a dychwelyd i fod yn SV Westfalia Schalke (ystyr y talfyriad "SV" yw Sport Verein, sef "Cymdeithas Chwaraeon"). Pedair blynedd yn ddiweddarach unodd y ddau glwb eto i greu Turn- und Sportverein Schalke 1877. Ym 1924 ymwahanodd yr ochr bêl-droedd o'r gymnasteg gan fabwysiadu'r enw CC Schalke 04 a'r lliwiau cyfredol, glas a gwyn. Yn 1928, gyda thŵf y clwb, newidiodd ei enw am y tro olaf i FC Gelsenkirchen-Schalke 04, gan ddynodi blwyddyn sefydlu'r tîm pêl-droed.
Anthem y clwb yw cân o'r enw "Blau und Weiss, wie ich liebe dich" ("glas a gwyn, gan fy mod yn dy garu di").
Llysenwau'r clwb yw; Die Königsblaue (y Glas Brenhinol) a Die Knappen (y Glowyr).
Mae gan y clwb tua 66,000 o aelodau.
Unwaith i'r clwb ymsefydlu ar enw a strwythur cafwyd sawl carreg filltir bwysig yn ei hanes ac yn hanes pêl-droed yr Almaen.
Ar 30 Ionawr 2019 arwyddwyd y chwaraewyr i dîm Cymru, Rabbi Matondo i glwb Schalke04 o dîm Manchester City yn Lloegr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article FC Schalke 04, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.