Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Brandenburg.
Saif yn nwyrain y wlad, ac roedd y boblogaeth yn 2007 yn 2,537,800. Prifddinas y dalaith yw Potsdam. Mae'r dalaith yn amgylchynu Berlin, ond nid yw'r ddinas yn rhan o dalaith Brandenburg.
Math | taleithiau ffederal yr Almaen |
---|---|
Prifddinas | Potsdam |
Poblogaeth | 2,449,193 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Dietmar Woidke |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Saitama |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ardal Fetropolitan Berlin/Brandenburg |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 29,478.63 km² |
Uwch y môr | 0 metr |
Yn ffinio gyda | Mecklenburg-Vorpommern, Sacsoni, Sachsen-Anhalt, Niedersachsen, Berlin, Lubusz Voivodeship, West Pomeranian Voivodeship |
Cyfesurynnau | 52.3619°N 13.0081°E |
DE-BB | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Landtag of Brandenburg |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Minister-President of Brandenburg |
Pennaeth y Llywodraeth | Dietmar Woidke |
Mae'n un o'r taleithiau newydd a grewyd yn 1990 wedi ad-uno'r Almaen. Ar un adeg, roedd Marcgrafiaeth Brandenburg yn wladwriaeth annibynnol, a ddatblygodd i fod yn gnewyllyn Prwsia. Daeth tua thraean o'r Bandenburg hanesyddol yn rhan o Wlad Pwyl yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Ffinia'r dalaith ar Wlad Pwyl yn y dwyrain, gydag afon Oder yn ffurfio rhan o'r ffîn. Mae afon Elbe yn ffurfio rhan o ffîn y dalaith yn y gorllewin.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brandenburg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.