Awdures o'r Almaen ac yna Sweden oedd Nelly Sachs (10 Rhagfyr 1891 - 12 Mai 1970) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, dramodydd a chyfieithydd.
Nelly Sachs | |
---|---|
Ganwyd | Leonie Sachs 10 Rhagfyr 1891 Schöneberg, Berlin |
Bu farw | 12 Mai 1970 o canser y coluddyn Stockholm, Högalid Parish |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | bardd, dramodydd, cyfieithydd, ysgrifennwr |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Dinesydd anrhydeddus Berlin, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Gwobr Droste, Gwobr Nelly Sachs, Sveriges Radio's Poetry Prize |
llofnod | |
Fe'i ganed yn Schöneberg ar 10 Rhagfyr 1891; bu farw yn Högalid Parish o ganser y coluddyn ac fe'i claddwyd mewn mynwent Iddewig.
Profodd dwf y Natsïaid yn Ewrop yr Ail Ryfel Byd a thrawsnewid y profiad hi yn llefarydd dros deimladau ei chyd Iddewon. Ei drama adnabyddus yw Eli: Ein Mysterienspiel vom Leiden Israels (1950); mae'r gweithiau eraill yn cynnwys y cerddi "Zeichen im Sand" (1962), "Verzauberung" (1970), a'r casgliadau o farddoniaeth In den Wohnungen des Todes (1947), Flucht und Verwandlung (1959), Fahrt ins Staublose (1961), a Suche nach Lebenden (1971). Enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1966.
Ganwyd 'Leonie Sachs yn Schöneberg, Berlin, yr Almaen, yn 1891 i deulu Iddewig. Roedd ei theulu'n gynhyrchwyr rwber naturiol, ac yn gyfoethog: Georg William Sachs (1858–1930) a'i wraig Margarete, g. Karger (1871–1950). Fe'i haddysgwyd gartref oherwydd ei hiechyd bregus. Dangosodd arwyddion cynnar o dalent fel dawnsiwr, ond nid oedd ei rhieni yn ei hannog i ddilyn y proffesiwn. Cafodd ei magu fel menyw ifanc gysgodol, mewnblyg iawn ac ni fu erioed yn briod.
Wrth i'r Natsïaid gymryd grym, daeth yn fwyfwy ofnus, ar un adeg collodd y gallu i siarad, fel y dywedodd mewn pennill: "Pan ddaeth y terfysg mawr / mi syrthiais yn fud." Ffodd Sachs gyda'i mam oedrannus i Sweden ym 1940. Ei chyfeillgarwch â Lagerlöf a achubodd eu bywydau: ychydig cyn ei marwolaeth ei hun trefnodd Lagerlöf (gyda theulu brenhinol yn Sweden) eu rhyddhau o'r Almaen. Dihangodd Sachs a'i mam ar yr awyren olaf o'r Almaen Natsïaidd i Sweden, wythnos cyn y dyddiad yr oedd Sachs i fynd i'r gwersyll crynhoi (concentration camp). Setlodd y ddwy yn Sweden a daeth Sachs yn ddinesydd yno yn 1952.
Rhestrir y gwaith a gyhoeddodd Nelly Sachs yn An Encyclopedia of Continental Women Writers.:1089–1091
Llythyrau:
Cyfieithiadau:
Bu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg, ac Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Nelly Sachs, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.