Awdures o'r Almaen oedd Christa Wolf (née Ihlenfeld; 18 Mawrth 1929 – 1 Rhagfyr 2011) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr, gwleidydd, nofelydd ac awdur ysgrifau.
Mae'n un o'r awduron mwyaf nodedig sy'n hannu o Ddwyrain yr Almaen.
Christa Wolf | |
---|---|
Ganwyd | Christa Ihlenfeld 18 Mawrth 1929 Gorzów Wielkopolski |
Bu farw | 1 Rhagfyr 2011 Berlin |
Man preswyl | Kleinmachnow |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, sgriptiwr, gwleidydd, cydweithiwr answyddogol, nofelydd, awdur ysgrifau, newyddiadurwr, beirniad llenyddol, awdur ffuglen wyddonol, critig, awdur |
Adnabyddus am | Der geteilte Himmel, Nachdenken über Christa T., Kindheitsmuster, Cassandra |
Arddull | rhyddiaith |
Plaid Wleidyddol | Plaid Undod Sosialaidd yr Almaen |
Priod | Gerhard Wolf |
Plant | Annette Simon |
Perthnasau | Jan Faktor |
Gwobr/au | Gwobr Georg Büchner, Gwobr Geschwister-Scholl, Gwobr Genedlaethol Dwyrain yr Almaen, Gwobr Goffa Schiller, Gwobr Heinrich Mann, Gwobr Samuel-Bogumil-Linde, Gwobr Nelly Sachs, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Gwobr Franz-Nabl, Gwobr Lenyddol Elisabeth Langgässer, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd, Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen, Gwobr Thomas-Mann, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel, Q105870591 |
Fe'i ganed yn Gorzów Wielkopolski ar 18 Mawrth 1929 a bu farw yn Berlin lle'i claddwyd ym Mynwent Dorotheenstadt. Priododd Gerhard Wolf. Ei rhieni oedd Otto a Herta Ihlenfeld, ac fe'i ganed yn Landsberg an der Warthe, a oedd bryd hynny yn Rhanbarth Brandenburg, ond sydd bellach yng Ngwlad Pwyl ac yn cael ei adnabod fel Gorzów Wielkopolski.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei theulu, a oedd yn Almaenwyr, eu diarddel o'u cartref pan gymerwyd yr ardal a'i droi'n rhan o Wlad Pwyl. Bu iddyn nhw groesi'r ffin newydd Oder-Neisse yn 1945 a setlo ym Mecklenburg, yn yr hyn a fyddai'n dod yn Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, (Dwyrain yr Almaen). Astudiodd Christa lenyddiaeth ym Mhrifysgol Jena a Phrifysgol Leipzig. Ar ôl iddi raddio, gweithiodd i Undeb Awduron yr Almaen a daeth yn olygydd i gwmni cyhoeddi.
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Divided Heaven, The Quest for Christa T., Patterns of Childhood a Cassandra. Daeth llwyddiant Wolf fel awdur yn 1963 gyda chyhoeddiad Der geteilte Himmel (cyfieithwyd i'r Saesneg dan y teitl Divided Heaven a hefyd They Divided the Sky).
Mae ei gweithiau llenyddol yn trafod grym gwleidyddol, economaidd a gwyddonol, gan ei gwneud yn llefarydd dylanwadol iawn yn Nwyrain a Gorllewin yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd ga ei bod yn annog rhoi grym i unigolion i fod yn weithgar yn y gymdeithas ddiwydiannol a phatriarchaidd.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes; ymunodd a'r Blaid Undod Sosialaidd yr Almaen 1949 a'i gadael ym Mehefin 1989, chwe mis cyn i'r gyfundrefn Gomiwnyddol gwympo.
Ers ailuno'r Almaen, mae gwaith Wolf wedi cael ei ystyried yn ddadleuol gan rai beirniaid llenyddol. Ar ôl cyhoeddi Was bleibt, dadleuodd beirniaid Gorllewin yr Almaen, fel Frank Schirrmacher, fod Wolf wedi methu â beirniadu awdurdodiaeth cyfundrefn Gomiwnyddol Dwyrain yr Almaen, tra bod eraill yn galw ei gweithiau'n "foesol". Mae ei hamddiffynwyr yn cydnabod rôl Wolf wrth sefydlu llais llenyddol Dwyrain yr Almaen.
Bu'n aelod o Academi Celfyddydau'r GDR, Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg, Pwyllgor Canolog Plaid Sosialaidd yr Almaen, Academy of Arts, Berlin am rai blynyddoedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Christa Wolf, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.