Dangosiad cyflym o gyfres o luniau 2D neu fodelau 3D er mwyn creu symudiad rhithiol yw animeiddio.
Rhith symudiad gweledol ydyw a greir drwy'r ffenomena gweledol parhaus, a gellir ei greu drwy amryw o ffyrdd gan gynnwys animeiddio digidol. Y ffordd mwyaf cyffredin o gyflwyno animeiddiad yw mewn ffilm neu raglen fideo, er bod nifer o ffyrdd eraill o gyflwyno animeiddio'n bodoli hefyd.
Enghraifft o'r canlynol | cinematic technique |
---|---|
Math | creu ffilmiau |
Dyddiad darganfod | Rhagfyr 1888, 28 Hydref 1892 |
Cynnyrch | ffilm animeiddiedig, cyfres animeiddiedig, animated art |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn draddodiadol, tynwyd llun ar bapurau, gyda phob llun ychydig yn wahanol i'r un o'i flaen. Un o brif animeiddwyr y byd yw Walt Disney. Ceir hefyd nifer o gwmnïau animeiddio hynod lwyddiannus yng Nghymru ers dyfodiad S4C, gyda chartwnau megis SuperTed a Sam Tân.
Erbyn y 1990au roedd meddalwedd wedi'i sgwennu a wnaeth hi'n bosibl i'r cyfrifiadur "greu'r" animeiddiad.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Animeiddio, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.