Ardal gyda dwysedd uchel o goed yw coedwig (neu fforest).
Mae gan goedwig nifer o wahanol ddifiniadau yn seiliedig ar amryw o feini prawf. Diffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru yw "Darn helaeth o dir ag amlder o goed a phrysglwyni’n tyfu’n naturiol arno, yn nodedig gynt fel lloches i anifeiliaid gwylltion o bob math, fforest, gwig, llwyn choed yr arferid hela ynddo". Dywed y Sefydliad Bwyd ac Amaeth, mae fforestydd yn gorchuddio tua pedair biliwn hectar (15 miliwn milltir sgwâr).
Gellir dweud mai fforsetydd yw prif ecosystem y Ddaear, ac maent i'w cael ledled y byd. Dyma 75% o gynnyrch cynradd biosffer y Ddaear, ac 80% o fiomas y Ddaear. Ceir coetiroedd dros 250,000ha, sef 12% o arwynebedd Cymru.
Rheolir coed a choedwigoedd Cymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru (yr hen Comisiwn Coedwigaeth Cymru) sy'n rheoli diwydiant coedwigaeth y wlad, er budd economaidd. Mae'r comisiwn llywodraethol hwn yn berchen ar ystadau mawr er mwyn elwa ar bren a chyfloedd masnachol eraill coetiroedd, megis gweithgareddau awyr agored a gwarchod coed hynafol a'r bywyd gwyllt a geir ynddynt.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Coedwig, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.