Ymadrodd Lladin yw Alma mater am brifysgol neu goleg.
Tarddiad y gair yw dau air Lladin: alma "llawn maeth/caredig" a mater "mam" hy "y fam a roddodd faeth". Mae'n perthyn yn agor i'r term alumnus, sef myfyriwr graddiedig, neu yn llythrennol: "maethiad ifanc" neu "un a roddwyd iddo fwyd". Defnyddir yr ymadrodd 'Alma mater' yn aml i gyfeirio at y coleg mae person wedi ei fynychu yn ystod ei oes. Fel arfer, cyfeirir at y coleg cyntaf, y radd gyntaf i'r person ei derbyn. Dyma'r ystyr modern i'r gair.
Cyn yr 17eg ganrif, roedd yr ymadrodd yn cyfeirio at naill ai fel teitl anrhydeddus am dduwiesau mamol e.e. Ceres neu Cybele neu yn yr Eglwys Gatholig fel teitl i'r Forwyn Fair.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Alma mater, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.