Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru (Saesneg: National Union of Students Wales) yw rhan Gymreig Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.
Cafodd yr Undeb ei sefydlu ym 1973 ac ef yw sefydliad democrataidd mwyaf Cymru. Mae’n cynrychioli mwy na chwarter miliwn o fyfyrwyr o fewn sectorau Addysg Uwch a Phellach Cymru. Sefydliad agored ydyw sy’n gweithio mewn partneriaeth gydag undebau myfyrwyr yng Nghymru. Mae llywodraethau lleol a chenedlaethol, y cyfryngau, diwydiant, undebau llafur, grwpiau pwyso a sefydliadau gwirfoddol yn ei adnabod a’i barchu fel llais myfyrwyr Cymru. Mae UCM Cymru yn ‘ardal arbennig’ awtonomaidd o fewn UCM y Deyrnas Unedig; mae’n penderfynu ei bolisïau ei hun, yn ethol ei bwyllgor gwaith cenedlaethol ei hun, ac yn ymgyrchu ynghylch materion sy’n effeithio ar fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru. Caiff swyddogion ac actifyddion UCM Cymru eu cefnogi gan staff sy’n gweithio ym Mae Caerdydd.
Cynhaliwyd Cynhadledd awtonomaidd gyntaf UCM Cymru yn Aberystwyth ar 3-4 Tachwedd 1973 gyda'r enw “Cynhadledd Cenedlaethol Colegau Cymru”. Fel rhan o’r gynhadledd, cafwyd cymysg o drafodaethau, gweithdai, a dadleuon polisi. Cytunodd y cynrychiolwyr i greu cyfansoddiad, i'w gyflwyno gerbron Cynhadledd UCM ym 1974, y byddai’n peri mwy o annibyniaeth i UCM Cymru.
Ym mis Hydref 1973 y cynhaliwyd cyfarfod olaf yr hyn a alwyd ‘Ardal Gymreig’ UCM.
Llywydd: Beth Button
Cafodd Beth Button ei hethol fel Llywydd UCM Cymru ym mis Mawrth 2014. Bryd hynny, hi oedd Dirprwy Lywydd UCM Cymru ac roedd eisoes wedi treulio blwyddyn fel Swyddog Materion Academaidd yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Hi sy’n gyfrifol am bolisi addysg uwch, datblygu’r undeb, a pholisi tai.
Dirprwy Lywydd: Ebbi Ferguson
Cafodd Ebbi Ferguson ei hethol yr un pryd â Beth Button yng Nghynhadledd UCM Cymru fis Mawrth 2014. Roedd yn fyfyrwraig yng Ngholeg Sir Gâr a hi yw’r myfyriwr neu fyfyrwraig gyntaf o’r sector Addysg Bellach i ddal y swydd. Hi yw’r swyddog sabothol ieuengaf erioed ar draws UCM. Mae Ebbi’n gyfrifol am bolisi addysg bellach, datblygu’r undeb, prentisiaid, a iechyd meddyliol.
Swyddog Menywod: Rosie Inman
Cafodd Rosie Inman ei hethol fel Swyddog Menywod UCM Cymru yn ystod Cynhadledd Menywod UCM Cymru ym mis Mawrth 2014. Hi sy’n arwain Ymgyrch Menywod UCM Cymru. Ymunodd ag UCM Cymru o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ble hi oedd y Swyddog Menywod llawn-amser.
Mae Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol UCM Cymru yn cynnwys y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd sy’n cael eu hethol yng Nghynhadledd UCM Cymru, y Swyddogion Rhyddhad sy’n cael eu hethol yng nghynadleddau eu hymgyrchoedd, a’r Bloc o Saith, sy’n cael eu hethol yng Nghynhadledd Maes UCM Cymru yn yr hydref ac eraill ohonynt yng Nghynhadledd UCM Cymru yn y gwanwyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.