Mae Normandi (yn hanesyddol Norddmandi; Ffrangeg: Normandie, Ffrangeg Normanaidd: Normaundie) yn rhanbarth daearyddol a hanesyddol yr arferid ei alw'n Ddugiaeth Normandi.
Lleolir Normandi ar hyd arfordir Ffrainc i'r de o Fôr Udd rhwng Llydaw i'r gorllewin a Picardi i'r dwyrain. Rhennir y diriogaeth rhwng sofraniaeth Ffrengig a Phrydeinig. Mae'r ardal sydd o dan sofraniaeth Ffrengig yn gorchuddio 30,627 km², sydd tua 5% o holl dir Ffrainc. Am resymau gweinyddol, rhennir Normandi yn ddau ranbarth: Basse-Normandie a Haute-Normandie. Mae Ynysoedd y Sianel (y cyfeirir atynt fel yr Iles Anglo-Normandes yn Ffrangeg, sef yr 'Ynysoedd Eingl-Normanaidd') yn gorchuddio 194 km² ac yn cynnwys dwy feilïaeth, Guernsey a Jersey, ac mae'r ddwy ohonynt o dan reolaeth Coron Prydain, er nad ydynt yn rhan o'r DU.
Math | talaith hanesyddol yn Ffrainc, ardal hanesyddol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Llychlynnwyr |
Prifddinas | Caen, Rouen |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ffrainc |
Yn ffinio gyda | province of Brittany |
Cyfesurynnau | 49°N 0.000000°W |
Mae Haute-Normandie (Normandi Uchaf) yn cynnwys y départements Ffrengig Seine-Maritime ac Eure, tra bod Basse-Normandie (Normandi Isaf) yn cynnwys adrannau Orne, Calvados, a Manche.
Yn ystod Brwydr Normandi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth Normandi yn safle lanio ar gyfer ymosod ar Ewrop a'i rhyddhau o Natsïaeth yr Almaen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Normandi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.