Dinas yn Normandi yng ngogledd-orllewin Ffrainc yw Rouen.
Hi oedd prifddinas hanesyddol Normandi, ac mae'n brifddinas région Normandi a département Seine-Maritime. Saif ar Afon Seine. Yn 2007, roedd poblogaeth yr ardal ddinesig yn 541,410, ac amcangyfrifwyd fod poblogaeth y ddinas ei hun yn 109,000.
Math | cymuned, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 114,083 |
Pennaeth llywodraeth | Nicolas Mayer-Rossignol |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Seine-Maritime |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 21.38 km² |
Uwch y môr | 10 metr |
Gerllaw | Afon Seine |
Yn ffinio gyda | Le Petit-Quevilly, Sotteville-lès-Rouen, Bihorel, Bonsecours, Bois-Guillaume, Canteleu, Darnétal, Déville-lès-Rouen, Le Grand-Quevilly, Mont-Saint-Aignan, Saint-Léger-du-Bourg-Denis, Saint-Martin-du-Vivier |
Cyfesurynnau | 49.4431°N 1.1025°E |
Cod post | 76000, 76100 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Rouen |
Pennaeth y Llywodraeth | Nicolas Mayer-Rossignol |
Sefydlwyd Rouen fel Ratumacos gan lwyth Celtaidd y Veliocassi. Galwai'r Rhufeiniaid y ddinas yn Rotomagus. Wedi i dalaith Gallia Lugdunensis gael ei rhannu'n ddau dan yr ymerawdwr Diocletian, daeth Rouen yn brifddinas Gallia Lugdunensis II.
O 912, Rouen oedd prifddinas Dugiaeth Normandi ac yno yr oedd Dugaid Normandi yn byw hyd nes i Gwilym Goncwerwr adeiladu castell yn Caen. Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, ildiwyd y ddinas i'r Saeson yn 1419. Yma y llosgwyd Jeanne d'Arc ar 30 Mai, 1431. Cipiodd y Ffrancod y ddinas yn ôl yn 1449.
Adeg y Rhyfel Byd Cyntaf roedd Rouen yn ganolfan cyflenwadau bwysig, ac yr oedd yno nifer o ysbytai milwrol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rouen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.