Toulouse: Tref yn Ocsitania

Dinas yn Ocsitania yw Toulouse (Ocitaneg: Tolosa /tuˈluzɔ/), yn département Haute-Garonne a région Occitanie.

Tolosa yw prifddinas y région honno, a hi hefyd oedd prifddinas région Midi-Pyrénées a ddiddymwyd yn 2016. Yn 2007, roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 443,103 a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 1,117,000, gan wneud Toulouse y bedwaredd dinas yn Ffrainc o ran poblogaeth, ar ôl Paris, Marseille a Lyon. Mae'r boblogaeth yn tyfu'n gynt nag unrhyw ddinas fawr arall yn Ewrop. Saif y ddinas ar Afon Garonne.

Toulouse
Toulouse: Adeiladau a chofadeiladau, Addysg, Trafnidiaeth
Toulouse: Adeiladau a chofadeiladau, Addysg, Trafnidiaeth
Mathcymuned, dinas fawr, tref goleg Edit this on Wikidata
Poblogaeth504,078 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJean-Luc Moudenc Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
LleoliadOcsitania Edit this on Wikidata
SirHaute-Garonne
GwladBaner Ocsitania Ocsitania ,Baner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd118.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr141 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Garonne Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaFenouillet, Aucamville, Balma, Blagnac, Colomiers, Cugnaux, Labège, Launaguet, Pechbusque, Portet-sur-Garonne, Quint-Fonsegrives, Ramonville-Saint-Agne, Saint-Orens-de-Gameville, Tournefeuille, L'Union, Vieille-Toulouse Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.6044°N 1.4439°E Edit this on Wikidata
Cod post31000, 31100, 31200, 31300, 31400, 31500 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Toulouse Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJean-Luc Moudenc Edit this on Wikidata

Yn Nhoulouse mae prif ganolfan cwmni Airbus, ac mae llawer o ddiwydiannau technolegol eraill wedi datblygu yma. Ym maes chwaraeon, Rygbi'r Undeb sydd fwyaf poblogaidd yn yr ardal, ac mae tîm rygbi Toulouse, Stade Toulousain, ymhlith y cryfaf yn Ewrop. Ymhlith pobl enwog o Toulouse mae rhai o chwaraewyr rygbi amlycaf Ffrainc, megis Jean-Pierre Rives, David Skrela, Fabien Pelous a Frédéric Michalak.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Basilica Saint-Sernin
  • Eglwys gadeiriol Saint-Étienne
  • Hotel du Grand Balcon
  • Prifysgol Toulouse

Addysg

Trafnidiaeth

Metro

Mae dau lein Metro yn y ddinas (A a B). Mae trydydd lein, Toulouse Aerospace Express, yn yr arfaeth. Lansiwyd y Metro ym 1993, ac mae'n defnyddio technoleg VAL.

Enwau a llysenwau

Mae'r enw Tolosa yn ymddangos mewn hen ysgrifau o'r 2il ganrif CC ymlaen (Τώλοσσα yn Groeg gan Poseidonius a Strabo, Tolosa yn Lladin gan Cicero, Cesar a Plinius yr Hynaf ). Cysylltir yr enw gyda'r Tectosagiaid, pobl geltaidd.

Toulouse: Adeiladau a chofadeiladau, Addysg, Trafnidiaeth 
Darn arian "gyda phen dyn du" a fathwyd gan y Tolosates yn yr 2il ganrif CC neu'r ganrif 1af CC.

Mae union darddiad yr enw Tolosa / Toulouse yn anhysbys hyd heddiw. Mae'n anodd cyfiawnhau tarddiad celtaidd, ac mae rhai ieithyddwyr yn ystyried ei fod yn dod o'r Ibereg, iaith hynafol nas gwyddir llawer amdani. Mae llefydd eraill o'r enw "Tolosa" ar Benrhyn Iberia, ond hefyd yn Ne-Ddwyrain Ffrainc (Jura ac Ardèche).

Gelwid y bobl oedd yn byw yn y ddinas ac o'i chwmpas yn Tolosates, ond nid yw'n sicr ai Celtiaid Tecsosagiaid oeddynt, a oedd wedi mudo yn yno yn y 4edd ganrif CC, neu'n gymysg â phoblogaethau cynhenid, neu yn Geltiberiaid.

Mae rhai ymchwilwyr yn credu bod Tolosa, « cité de Minerve » (Palladia Tolosa) gynt yn cyfeirio at y Tholos a geir mewn pensaernïaeth Groeg yr Henfyd, ac yn cysylltu hynny â chwedlau aur a gipwyd o Delphi i Tolosa.

Yn ôl hanesyn oedd yn boblogaidd adeg y Dadeni Dysg, sefydlwyd y ddinas gan Tholus, ŵyr Jaffeth ail fab Noa.

Tolosa oedd enw Lladin y ddinas, a dyna yw'r enw Ocsitaneg hyd heddiw, megis yn yr arwyddair Per Tolosa totjorn mai. Daeth hynny yn Tholose ac yna yn Toulouse erbyn diwedd yr 17eg ganrif yn Ffrangeg, o ddan dylanwad yr ynganiad Ocsitaneg [tuˈluzɔ].

Gelwir y ddinas y ville rose oherwydd lliw y brics traddodiadol. Llysenw arall ar y ddinas yw Ciutat Mondina neu la cité Mondine yn Ffrangeg, gan gyfeirio at yr Ieirll oedd yn arfer rheoli'r ardal, oedd yn aml yn dwyn yr enw Raymond.

Toulouse: Adeiladau a chofadeiladau, Addysg, Trafnidiaeth 
Montage o Toulouse, Top:Pont Saint Pierre ac Afon Garonne, Canol ar y chwith:Place du Capitole, Canol ar y dde: Pont-Neuf, Gwaelod ar y chwith: Capitole de Toulouse, Gwaelod canol: Safle lansio i'r gofod Arian 5, Gwaelod ar y dde: Mediatheque Jose Cabanis.

Iaith

Tolosa yw ail ddinas Ocsitania, yr ardal ble siaredir Ocsitaneg yn draddodiadol. Mae hi ar y ffin rhwng y tafodieithoedd Languedoceg a Gwasgwyneg. Ganwyd nifer o feirdd a llenorion Ocsitaneg megis Pierre Goudouli yn y ddinas. Ym 1323, crëwyd Acadèmia dels Jòcs Florals, y gystadleuaeth farddoniaeth hynaf sy'n dal i gael ei chynnal; gwobrwyir yr awdur Ocsitaneg gorau pob blwyddyn gyda blodyn fioled wedi ei orchuddio ag aur pur.

Gwaharddwyd yr iaith o fyd addysg gan yr awdurdodau Ffrengig ers talwm. Dywedir i'r Ocsitaneg beidio â bod yn iaith bob dydd ar strydoedd y ddinas o'r 1920au ymlaen, ac eithrio rhai ardaloedd fel Lalande a Saint-Cyprien ble'r oedd i'w chlywed hyd at y 1960au.

Mae olion dylanwad yr Ocsitaneg i'w clywed yn y Ffrangeg a siaredir yn Tolosa, er yn llai felly nag yn y gorffennol, o ran gramadeg, geirfa ac acen.

Yn 2006, lansiwyd Ostal d'Occitània, canolfan Ocsitaneg Tolosa, ar rue Malcousinat. Mae dros hanner cant o gymdeithasau, bob un yn ymwneud â'r Ocsitaneg mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn ei defnyddio. Ers mis Hydref 2009, mae cyfieithiadau Ocsitaneg ar orsafoedd y Metro.

Pobl o Doulouse

Gefeilldrefi

Cyfeiriadau


Toulouse: Adeiladau a chofadeiladau, Addysg, Trafnidiaeth  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Toulouse Adeiladau a chofadeiladauToulouse AddysgToulouse TrafnidiaethToulouse Enwau a llysenwauToulouse IaithToulouse Pobl o DoulouseToulouse GefeilldrefiToulouse CyfeiriadauToulouse2007Afon GaronneDépartementFfraincHaute-GaronneLyonMarseilleMidi-PyrénéesOcitanegOcsitaniaOcsitania (rhanbarth)Paris

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Cwmwl OortSefydliad ConfuciusAtlantic City, New JerseyHelen KellerXXXY (ffilm)IndonesiaArwyddlun TsieineaiddYr Ail Ryfel BydRhestr dyddiau'r flwyddynIestyn GarlickAfter Earth365 DyddWhatsAppDaearegArthur George OwensLeighton JamesHarri Potter a Maen yr AthronyddCymruRwmanegPaganiaethY DiliauCorff dynolY Rhyfel Byd CyntafBirminghamHannah DanielThe Witches of BreastwickRhyfel Sbaen ac AmericaY Rhyfel OerDaniel Jones (cyfansoddwr)Dic JonesLleuwen SteffanYnniBarack Obama1 EbrillSteffan CennyddIeithoedd GoedelaiddMahanaCreampieY CwiltiaidJapanGoresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022Showdown in Little TokyoDurlifContactComin WicimediaLloegrAmerican Dad XxxRhyw llawMET-ArtSarn BadrigMelin BapurSystem weithreduNiels Bohr1855Christmas EvansBamiyanCyfeiriad IPTwo For The MoneyCiAlexandria RileyDanses Cosmopolites À TransformationsAserbaijanegSaesnegPatagoniaCyfandirDinasGoogleCynnwys rhyddPessachDriggLlanelliWalking Tall🡆 More