Afon sy'n tarddu yn Sbaen ac yn llifo trwy dde-orllewin Ffrainc yw Afon Garonne (Ocitaneg, Catalaneg a Sbaeneg: Garona; Lladin Garumna).
Mae'n 575 km (357 milltir) o hyd.
Math | y brif ffrwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ocsitania, Val d'Aran, Nouvelle-Aquitaine |
Gwlad | Sbaen Ffrainc |
Cyfesurynnau | 42.6178°N 0.9689°E, 45.0386°N 0.6111°W |
Aber | Moryd Gironde |
Llednentydd | Afon Ariège, Baïse, Gers, Afon Lot, Afon Tarn, Neste, Salat, Touch, Barguelonne, Pique, Sère, Volp, Arize, Arrats, Dropt, Ciron, Auroue, Avance, Hers-Mort, Louge, Save, Jalle de Blanquefort, Séoune, Ourse, Guat mort, Gimone, Bassanne, Tolzac, Aussonnelle, Auvignon, Beuve, Devèze, Eau Bourde, Eau Blanche, Eaudonne, Ger, Gupie, Maltemps, Masse de Prayssas, Maudan, Noue, Ourbise, Saucats, river Valarties, Lambon, Lisos, Trec de la Greffière, Peugue, Ayroux, Aunat, Artolie, Arriu d'Antòni, Barboue, Ruisseau de l'Euille, Q20731560, Marguestaud, Q21008025, Q21027393, Q21027399, Ruisseau Pimpine, Q21027443, Ruisseau la Nadesse, Ruisseau de Génisson, Gouhouron, Q21124992, Toran River, Q21124997, Q21129740, Q21427925, Arriu Unhòla, Q21619201, Q21619214, Ruisseau la Tessonne, Q21619213, Q21619217, Medier, Gua, Nere, Joeu, Riu de Varradòs |
Dalgylch | 56,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 647 cilometr |
Tardda'r afon yn y Val d'Aran yn y Pyreneau yng ngogledd-orllewin Catalwnia. Mae'n llifo i Ffrainc, lle mae'n llifo heibio dinas Toulouse cyn ymuno ag aber y Gironde ger Bordeaux, a llifo i Fae Biscay. Yr afonydd mwyaf o'r rhai sy'n llifo i mewn iddi yw Afon Ariège, Afon Tarn ac Afon Lot.
Gall llongau ddilyn y Garonne o'r môr cyn belled a phorthladd Bordeaux, ac mae'n rhan o'r "Canal des Deux Mers", sy'n cysylltu Môr y Canoldir a Bae Biscay. Gall cychod llai fynd ymhellach, hyd at Castets-en-Dorthe, lle mae canal yn arwain i Toulouse.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Afon Garonne, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.