Mae Delffi (Groeg: Δελφοί), yn safle archeologol yng Ngwlad Groeg ac hefyd yn enw ar y dref fodern gerllaw.
Mae ar lechweddau isaf y Mynydd Parnasws yn Phocis.
Roedd Delffi yn safle o bwysigrwydd mawr yng Ngroeg yr Henfyd oherwydd presenoldeb Oracl Delffi. Mae'r safle yn dyddio i'r cyfnod cynhanesyddol, pan addolid Gaia yma; yn ddiweddarch roedd yn gysegredig i'r duw Apolon.
Delffi oedd safle yr omphalos (ομφαλός) carreg oedd yn dynodi canolbwynt y byd. Roedd yr omphalos yn nheml Apolon o Delffi (Ἀπόλλων Δελφίνιος).
Saif y dref fodern i'r gorllewin o'r safle archeolegol. Roedd y boblogaeth yn 3,511 yn 2001.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Delphi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.