Dinas yn ne Ffrainc yw Nîmes.
Hi yw prifddinas département Gard yn region Languedoc-Roussillon. Saif heb fod ymhell o Avignon, Montpellier a Marseille. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 133,424 .
Arwyddair | COLNEM |
---|---|
Math | cymuned, dinas fawr |
Poblogaeth | 148,104 |
Pennaeth llywodraeth | Jean-Paul Fournier |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Braunschweig, Frankfurt an der Oder, Prag, Preston, Verona, Salamanca, Rishon LeZion, Meknès, Fresno, Plasencia, Córdoba, Fort Worth, Texas |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gard |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 161.85 km² |
Uwch y môr | 215 metr |
Yn ffinio gyda | Bouillargues, Caissargues, La Calmette, Caveirac, Dions, Gajan, Générac, Marguerittes, Milhaud, Parignargues, Poulx, La Rouvière, Sainte-Anastasie, Saint-Gilles, Rodilhan |
Cyfesurynnau | 43.8383°N 4.3597°E |
Cod post | 30000, 30900 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Nîmes |
Pennaeth y Llywodraeth | Jean-Paul Fournier |
Roedd Nîmes, fel Colonia Nemausensis, yn ddinas bwysig yn y cyfnod Rhufeinig. Mae'r amffitheatr Rufeinig, Arena Nîmes, yn nodedig, tra ystyrir y Maison Carrée yr enghraifft o deml Rufeinig sydd wedi goroesi yn y cyflwr gorau. Rhyw 20 km i'r gogledd-orllewin, mae'r Pont du Gard, acwedwct oedd yn cario dŵr i'r ddinas.
Daw'r gair denim am y brethyn o "de Nîmes" ("o Nîmes").
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Nîmes, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.