Dinas hanesyddol yng ngogledd canolbarth Ffrainc yw Orléans, sy'n brifddinas weinyddol département Loiret a rhanbarth Centre hefyd.
Gorwedd ar lan Afon Loire 116 km i'r de-orllewin o Baris. Gelwir ei thrigolion yn Orléanais. Mae'n sedd esgobaeth ers y 4g. Enwir dinas New Orleans (Nouvelle Orléans) yn yr Unol Daleithiau ar ôl Orléans.
Math | cymuned, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 116,617 |
Pennaeth llywodraeth | Olivier Carré |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Lugoj, Kraków, Dundee, Treviso, Kristiansand, Wichita, Kansas, Tarragona, Utsunomiya, Parakou, Münster, Saint-Flour, Yangzhou, New Orleans, Meknès |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Centre-Val de Loire |
Sir | Loiret |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 27.48 km² |
Uwch y môr | 116 metr |
Gerllaw | Afon Loire, Loiret |
Yn ffinio gyda | Fleury-les-Aubrais, La Ferté-Saint-Aubin, Olivet, Ardon, Saint-Cyr-en-Val, Saint-Jean-de-Braye, Saint-Jean-de-la-Ruelle, Saint-Jean-le-Blanc, Saint-Pryvé-Saint-Mesmin, Saran, Semoy |
Cyfesurynnau | 47.9022°N 1.9042°E |
Cod post | 45000, 45100 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Orléans |
Pennaeth y Llywodraeth | Olivier Carré |
Yn 1428, yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, roedd y Saeson yn gwarchae ar ddinas Orléans. Yn 1429, perswadiodd merch ieuanc o blith y werin, Jeanne d’Arc, y Dauphin, Siarl VII, i’w gyrru i godi’r gwarchae, gan ddweud ei bod wedi cael gweledigaeth gan Dduw yn gorchymyn iddi yrru’r Saeson allan. Llwyddodd i godi’r gwarchae o fewn naw diwrnod, ac ysbrydolodd y Ffrancwyr i gipio nifer o gaerau’r Saeson ar hyd Afon Loire. Yn fuan wedyn, cafodd y Ffrancwyr fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Patay. Coronwyd y Dauphin yn Reims fel Siarl VII, gyda Jeanne yn ei arwain i'w goroni.
Dioddefodd y ddinas lawer o ddifrod yn yr Ail Ryfel Byd, yn enwedig yn 1940, ond mae'r eglwys gadeiriol ganoloesol yn dal i sefyll. Mae Neuadd Dref Orléans (hôtel de ville) yn dyddio o'r 16fed ganrif.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Orléans, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.