Afon 1,020 km o hyd, yr hiraf yn Ffrainc, yw Afon Loire (Occitaneg, Léger / Leir; Francoprovençal, Lêre; Llydaweg a Lladin, Liger, neu Stêr Liger yn Llydaweg hefyd, yn tarddu o'r enw Galeg).
Math | y brif ffrwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Allier, Ardèche, Cher, Indre-et-Loire, Loir-et-Cher, Loire, Haute-Loire, Loire-Atlantique, Loiret, Maine-et-Loire, Nièvre, Saône-et-Loire |
Gwlad | Ffrainc Llydaw |
Cyfesurynnau | 44.8417°N 4.2186°E, 47.27°N 2.1844°W |
Tarddiad | Saint-Martial |
Aber | Bae Bizkaia |
Llednentydd | Acheneau, Afon Maine, Erdre, Èvre, Layon, Afon Sèvre Nantaise, Afon Indre, Afon Cher, Afon Allier, Q51271530, Loiret, Loise, Notre-heure, Ruisseau de Balance, Bonnée, Authion, Brivet, Besbre, Arconce, Acolin, Aix, Ance, Gazeille, Ixeure, Ardoux, Afon Vienne, Aron, Arroux, Arzon, Beuvron, Aubois, Beaume, Borne, River Cisse, Coise, Lignon du Forez, Lignon du Velay, Vauvise, Nièvre, Furan, Gagne, Thouet, Sornin, Somme, Mare, Nohain, Renaison, Rhins, Roudon, Semène, Sumène, Aigue Nègre, Amasse, Romme, Vouzance, Boire de Champtocé, Boire Torse, Bonson, Bresme, Martinière canal, Chanasson, Cheuille, Choisille, Chézine, Gage, Gagne, Goulaine, Jarnossin, Louet, Mauves, Ondaine, Padelle, Peuilly, Prat Sauvage, Rhodon, Roumer, Teysonne, Thau, Toranche, Trézée, Vernason, Veyradeyre, Vrille, Bresbre, Loddes, Judelle, Q17355242, Trambouzan, Grée, Arçon, Hâvre, Ramel, Ocre, Engièvre, Divatte, Tronne, Q61818058, Châteauvert |
Dalgylch | 117,356 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,006 cilometr |
Arllwysiad | 835 metr ciwbic yr eiliad |
Mae'n tarddu yn Ardèche (Mont Gerbier de Jonc yw enw'r mynydd) ac yn llifo ar draws Ffrainc o'r de-ddwyrain i'r gogledd-orlelwin cyn cyrraedd de Llydaw ac aberu yn yr Iwerydd.
Mae ei basn o 117 000 km² yn cynrychioli 20% o dir Ffrainc; gyda basn Afon Seine, basn neu dalgylch Afon Loire yw'r unig un o'r rhai afonydd mawr Ffrainc sy'n gorwedd yn gyfangwbl yn y wlad ei hun.
Mae dyffryn Val de Loire ymhlith y mwyaf hanesyddol yn Ffrainc ac mae'n enwog ledled Ewrop am ei gestyll trawiadol niferus a adnabyddir heddiw fel Les chateaux de la Loire. Val de Bretagne yw'r enw ar ddyffryn y Loire rhwng Ingrandes-sur-Loire a Nantes yn Pays de la Loire.
Mae hi'n aberu yng Nghefnfor Iwerydd yn région Loire-Atlantique (yn y Llydaw hanesyddol), ac mae ganddi foryd yno.
Ymhlith llednentydd Afon Loire mae:
Dyro'i henw ar:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Afon Loire, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.