Grŵp o ynysoedd ym Môr Udd oddi ar arfordir Normandi, Ffrainc, ond yn diriogaeth ddibynol ar goron y Deyrnas Unedig yw Ynysoedd y Sianel (Saesneg: Channel Islands, Ffrangeg: Îles Normandes).
Y prif ynysoedd yw Jersey (yr ynys fwyaf), Ynys y Garn (Guernsey), Alderney a Sark. Mae ganddynt tirfas o 194 km².
Math | ynysfor |
---|---|
Poblogaeth | 163,857 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Beilïaeth Jersey, Beilïaeth Ynys y Garn |
Arwynebedd | 198 km² |
Gerllaw | Môr Udd |
Cyfesurynnau | 49.43°N 2.35°W |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $11,736 million |
Cyfartaledd plant | 1.466 |
Daethant dan reolaeth Coron Lloegr gyda'r Goresgyniad Normanaidd o'r wlad honno yn 1066. Yn yr Ail Ryfel Byd cawsant eu meddiannu gan yr Almaen.
Mae twristiaeth yn bwysig iawn i'r ynysoedd ond mae amaethyddiaeth – yn arbennig tatws Jersey a thomatos – a garddwriaeth yn ddiwydiannau pwysig hefyd. Mae bridiau gwartheg Jersey yn enwog am eu llaeth hufennog.
Siaredir patois arbennig sy'n ffurf ar Ffrangeg Normanaidd ar yr ynys, ond Saesneg yw'r brif iaith.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ynysoedd y Sianel, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.