Prifysgol yn ninas Abertawe, Cymru ydy Prifysgol Abertawe (Saesneg: Swansea University).
Eisoes yn aelod o Brifysgol Cymru ers ei siarter swyddogol ym 1920, mae bellach yn gweithredu dan bwerau, a'i henw, ei hun wrth i Brifysgol Cymru chwarae llai o rôl yn rhediad ei sefydliadau, felly'n ddisodli ei henw diwethaf Prifysgol Cymru, Abertawe (University of Wales, Swansea).
Math | prifysgol ymchwil gyhoeddus, cyhoeddwr mynediad agored |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6097°N 3.9806°W |
Dyma'r trydydd prifysgol fwyaf yng Nghymru o ran y nifer o fyfyrwyr. Lleolir campws y brifysgol ar yr arfordir ar ochr ogleddol Bae Abertawe, i'r dwyrain o benrhyn Gwyr. Gerllaw, mae Parc Singleton ac mae ychydig y tu allan i ganol y ddinas.
Ceir elfen gref o gystadleuaeth rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd, ac mae tîmoedd chwaraeon y ddau brifysgol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn gornest flynyddol. Caiff y cystadlaethau eu hystyried fel y fersiwn Cymreig o ddigwyddiad Rhydgrawnt, a chaiff ei alw'n y Varsity Cymreig.
Derbyniodd Abertawe ei siarter brenhinol ym 1920 ac fel nifer o brifysgolion caiff ei reoli gan ei gyfansoddiad sydd wedi ei nodi yn ei stadudau a'i siarter. Corff llywodraethol Prifysgol Abertawe yw'r Cyngor, sy'n cael ei gefnogi gan y Senedd a'r Cwrt.
Mae Academi Hywel Teifi yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe; fe'i sefydlwyd yn 2010 ac fe'i henwyd er cof am yr Athro Hywel Teifi Edwards a fu'n dal Cadair y Gymraeg yno. Mae'r Academi'n cyd-weithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ehangu darpariaeth y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Prifysgol Abertawe, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.