Mae Rhydgrawnt yn enw a ddefnyddir weithiau i gyfeirio at brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, y ddwy brifysgol hynaf yn y Deyrnas Unedig a'r byd Saesneg.
Gair wedi'i lunio o gymysgu enwau'r ddwy brifysgol ydy'r enw. Mae'n dilyn patrwm y term Saesneg Oxbridge, a ddefnyddir yn y Gymraeg hefyd i gyfleu'r un ystyr.
Yn 2006, daeth Prifysgolion Caergrawnt a Rhydychen yn ail ac yn drydydd yn rhestr y Times Higher Education Supplement o'r brifysgolion ymchwil amlycaf yn y byd, ar ôl Prifysgol Harvard. Yn y gydran bwysicaf o system sgorio y THES, gofynnwyd i 3703 o academyddion ledled y byd ddethol hyd at 30 o brifysgolion a ystyrient yn sefydliadau ymchwil arweiniol yn eu maes. Yma, daeth Caergrawnt yn gyntaf, Rhydychen yn ail, a Harvard yn drydydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhydgrawnt, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.