Gwyddonydd Cymreig yw Dr Lyn Evans (ganed 1945).
Ef oedd cyfarwyddwr prosiect CERN, ger Genefa yn y Swistir.
Lyn Evans | |
---|---|
Ganwyd | 24 Gorffennaf 1945 Aberdâr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ffisegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Robert R. Wilson, Glazebrook Medal, CBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Sefydliad Ffiseg, IEEE Simon Ramo Medal, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Ganwyd a magwyd Evans yn Aberdâr, yng nghymoedd de Cymru. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Bechgyn Aberdâr, lle bu ganddo ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Ond cafodd hi'n anodd pasio ei Lefel O mewn Ffrangeg, cymhwyster a oedd yn angenrheidiol iddo allu astudio cwrs gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd ganddo ddiddordeb mewn cemeg pan oedd yn ifanc, a cofrestrodd i astudio'r pwnc hwn yn y brifysgol, cyn newidi astudio ffiseg yn ei ail flwyddyn yn y brifysgol, gan ei fod yn canfod y pwnc yn haws Daeth yn gymrawd anrhydedd o Brifysgol Abertawe yn 2002. Gwbrwywyd â Doethuriaeth Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth gan Brifysgol Morgannwg yng Ngorffennaf 2010.
Cymrawd ymwchwil oedd Evans yn CERN i gychwyn, wedi iddo ymweld â'r sefydliad am y tro cyntaf ym 1969. Yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr CERN erbyn hyn, mae'n arweinydd y Prosiect Gwrthdrawydd hadronnau mawr (Large Hadron Collider Project) yn CERN, sy'n ceisio ail-greu eiliadau cyntaf y bydysawd yn dilyn y Glec Fawr. Cafodd y llysenw Evans yr Atom gan y wasg.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Aberdâr ac ym Prifysgol Cymru, Abertawe.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Lyn Evans, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.