Lleolir Stadiwm y Mileniwm neu Stadiwm Principality (Saesneg: Principality Stadium) yng Nghaerdydd, ar lan Afon Taf.
Mae'r enw yn adlewyrchu cytundeb nawdd gyda Cymdeithas Adeiladu'r Principality rhwng 2016 a 2026. Dyma stadiwm cenedlaethol Cymru, ac Undeb Rygbi Cymru yw ei berchennog. Dyma'r ail stadiwm fwyaf yn byd gyda tho y gellir ei dynnu yn ôl yn gyfan gwbwl; mae ganddo le ar gyfer 75,154 o bobl. Fe'i adeiladwyd yn 1999, ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, a gynhaliwyd yng Nghymru y flwyddyn honno. Fe gostiodd £126 miliwn i Undeb Rygbi Cymru ac fe'i hariannwyd gan fuddsoddiad preifat, arian y Loteri a benthyciadau. Fe'i defnyddiwyd am y tro cyntaf ar 26 Mehefin 1999 pan chwaraeodd Cymru yn erbyn De Affrica.
Math | stadiwm rygbi'r undeb, stadiwm pêl-droed, safle rygbi'r undeb |
---|---|
Enwyd ar ôl | 3edd mileniwm, Cymdeithas Adeiladu'r Principality |
Agoriad swyddogol | 26 Mehefin 1999 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 40,200 m² |
Cyfesurynnau | 51.4781°N 3.1825°W |
Hyd | 222 metr |
Rheolir gan | Undeb Rygbi Cymru |
Perchnogaeth | Undeb Rygbi Cymru |
Cost | 181,000,000 punt sterling |
Pan agorodd y stadiwm yn swyddogol ym mis Mehefin 1999, hwn oedd dim ond yr ail stadiwm yn Ewrop â tho gwbwl codadwy, ar ôl Arena Amsterdam. Fe'i hadeiladwyd ar safle yr hen Stadiwm Cenedlaethol ym Mharc yr Arfau; hwn oedd y pedwerydd tro i'r safle hwnnw gael ei ailddatblygu.
Cynhaliwyd gemau terfynol Cwpan yr FA yma rhwng 2001 a 2006, tra'r oedd Stadiwm Wembley yn Llundain yn cael ei ail-adeiladu. Cynhaliwyd hefyd gemau pêl-droed yng Ngemau Olympaidd 2012 a gemau yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2015. Dyma fydd safle gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn 2017. Mae nifer o gerddorion wedi perfformio mewn cyngherddau yma, gan gynnwys Madonna, Take That, The Rolling Stones a Paul McCartney. Yn 2004, cynhaliwyd Cyngerdd Cymorth Tsunami yn y stadiwm.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Stadiwm y Mileniwm, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.