Cerbyd pedair olwyn a dynnid gan dîm o hyd at bedwar neu chwech o geffylau harnais oedd y goets fawr.
Fe'i defnyddid am deithiau hir ar briffyrdd Prydain a Gorllewin Ewrop o ganol yr 17g hyd at ddyfodiad y rheilffordd. Yr enw Saesneg arni oedd stagecoach, am ei bod yn arfer rhannu'r siwrnai'n gyfres o siwrnau llai. Cedwid ceffylau ar gyfer y goets fawr mewn tafarndai arbennig ar hyd y ffordd a byddai'r gyrwyr yn newid y ceffylau yno. Fel rheol yr oedd gan y goets fawr seddi i chwech y tu mewn iddi a lle i deithwyr tlawd ar ben y to. Roedd y goets yn cario nwyddau a llythyrau hefyd. Cludid y post brenhinol ar y coetsys mawr o 1784 ymlaen yng ngwledydd Prydain.
Cyfnod pwysicaf y goets fawr yn Ewrop oedd y 18g. Roedd yn ffordd anghyfforddus iawn o deithio, yn bennaf oherwydd cyflwr echrydus y ffyrdd yr adeg honno ac oherwydd cynifer y lladron penffordd ar y priffyrdd.
Roedd y goets fawr yn gyfrwng cludiant pwysig yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia yn y 19g.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Coets fawr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.