Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1932, digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r X Olympiad rhwng 3 Gorffennaf a 14 Awst yn ninas Los Angeles, Unol Daleithiau America.
Los Angeles oedd yr unig ddinas i wneud cais i gynnal y Gemau ac fe wanethpwyd y penderfyniad i gyflwyno'r gemau yn ystod 23in Sesiwn yr IOC yn Rhufain, Yr Eidal ar 9 Ebrill 1923.
Enghraifft o'r canlynol | Gemau Olympaidd yr Haf |
---|---|
Dyddiad | 1932 |
Dechreuwyd | 30 Gorffennaf 1932 |
Daeth i ben | 14 Awst 1932 |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1928 |
Olynwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1936 |
Lleoliad | Los Angeles Memorial Coliseum, Los Angeles |
Gwefan | https://olympics.com/en/olympic-games/los-angeles-1932 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adeiladwyd Pentref Olympaidd pwrpasol am y tro cyntaf yn ardal Baldwin Hills yn ne Los Angeles ar gyfer athletwyr gwrywaidd. Lleolwyd yr athletwyr benywaidd yng ngwesty'r Chapman Park Hotel.
Defnoddiwyd podiwm am y tro cyntaf yng Ngemau'r Haf ar gyfer seremoni'r medalau. Roedd podiwm wedi ei ddefnyddio yn gynharach yn y flwyddyn yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Lake Placid
Cynhaliwyd y Gemau yn ystod Dirwasgiad Mawr ac o'r herwydd cafwyd llai o wledydd yn gyrru timau i Los Angeles. Dim ond 37 o wledydd fu'n cystadlu o gymharu â'r 46 fu'n cystadlu yn Amsterdam ym 1928.
Llwyddodd Valerie Davies, Cymraes o Gaerdydd i ennill medal efydd yn y 100m dull nofio ar y cefn ac yn y ras gyfnewid 4x100m dull rhydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gemau Olympaidd yr Haf 1932, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.