Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol pwysig oedd Gemau Olympaidd yr Haf 2008, a adnabyddwyd yn swyddogol fel Gemau'r XXIX Olympiad, cynhaliwyd yn Beijing, Tsieina o 8 Awst (gyda'r pêl-droed yn cychwyn ar y 6 Awst) hyd 24 Awst 2008.
Dilynwyd y rhain gyda Gemau Paralympaidd yr Haf 2008 o 6 Medi hyd 17 Medi. Disgwylwyd i 10,500 o chwaraewyr gymryd rhan mewn 302 o gystadleuthau mewn 28 o chwaraeon, un cystadleuaeth yn fwy na gemau 2004. Roedd gemau 2008 Beijing hefyd yn nodi'r trydydd tro i'r cystadleuthau gael eu cynnal mewn tiriogaeth dau Pwyllgor Olympiadd Cenedlaethol gwahanol, gan cynhaliwyd y marchogaeth yn Hong Cong.
Y llythrennau "Jīng" (京), sef yr enw am y ddinas ar logo'r gemau. | |
Dinas | Beijing, Tseina |
---|---|
Arwyddair | One World, One Dream (同一个世界 同一个梦想) |
Gwledydd sy'n cystadlu | 204 |
Athletwyr sy'n cystadlu | 11,028 |
Cystadlaethau | 302 mewn 28 o Chwaraeon Olympaidd |
Seremoni Agoriadol | Awst 8 |
Seremoni Gloi | Awst 24 |
Agorwyd yn swyddogol gan | Hu Jintao, Arlywydd Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Llw'r Cystadleuwyr | Zhang Yining |
Llw'r Beirniaid | Huang Liping |
Cynnau'r Fflam | Li Ning |
Stadiwm Olympaidd | Stadiwm Cenedlaethol Beijing |
Enillodd Nicole Cooke y ras ffordd i ferched gan roi i Gymru y fedal aur gyntaf ers i Richard Meade ennill mewn marchogaeth yng Ngemau Olympaidd 1972. Enillodd dau Gymro arall fedalau aur: Geraint Thomas am seiclo a Tom James am rwyfo.
Cynhaliwyd y chwaraeon canlynol yn y gemau hyn, gyda'r nifer o gystadleuthau mewn cronfachau.
Dyma'r 10 cenedl a enillodd y nifer fwyaf o fedalau yn y Gemau yma:
Safle | Gwlad | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Gweriniaeth Pobl Tsieina | 51 | 21 | 28 | 100 |
2 | Unol Daleithiau America | 38 | 36 | 110 | |
3 | Rwsia | 23 | 21 | 28 | 72 |
4 | Prydain Fawr | 19 | 13 | 15 | 47 |
5 | Yr Almaen | 16 | 10 | 15 | 41 |
6 | Awstralia | 14 | 15 | 17 | 46 |
7 | De Corea | 13 | 10 | 8 | 31 |
8 | Japan | 9 | 6 | 10 | 25 |
9 | Yr Eidal | 8 | 10 | 10 | 28 |
10 | Ffrainc | 7 | 16 | 17 | 40 |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gemau Olympaidd yr Haf 2008, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.