Gornest rhwng dau gystadleuydd yw paffio.
Yn gyffredinol, mae'r cystadleuwyr yn debyg o ran pwysau ac maent yn ymladd yn erbyn ei gilydd gan ddefnyddio'u dyrnau. Goruchwylir y chwaraeon dan ddyfarnwr a gan amlaf ceir cyfres o ymladdfeydd sy'n para am dair munud. Gelwir yr ymladdfeydd hyn yn "rowndiau". Mae yna dair ffordd o ennill. Ceir buddugoliaeth os yw'r gwrthwynebwr yn cael ei daro i'r llawr a'i fod yn methu codi cyn i'r dyfarnwr gyfri i ddeg (yn Saesneg: Knockout neu KO). Daw buddugoliaeth hefyd os yw'r gwrthwynebydd wedi'i anafu'n ormodol i fedru parhau â'r ornest ("Knockout Technegol"). Os nad yw'r ornest yn stopio cyn nifer penodol o rowndiau, penderfynir ar enillydd naill ai gan benderfyniad y dyfarnwr neu gardiau sgorio'r beirniaid.
Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon, chwaraeon i wylwyr |
---|---|
Math | combat sport, chwaraeon olympaidd |
Gwlad | Lloegr |
Yn cynnwys | amateur boxing, professional boxing |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Paffio, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.